Llety
Sut i...Siopa Bwyd
Gall symud i ardal newydd lle nad ydych wir yn gwybod lle i brynu bwyd fod yn anodd.
Yn ffodus, mae Caerdydd yn ddinas fawr yn llawn llwyth o archfarchnadoedd sydd â phob math o fwydydd fel nad ydych yn colli'r bwyd roeddech yn ei gael gartref.
Yn gyntaf, efallai yr hoffech ddefnyddio Google i edrych am siopau ac archfarchnadoedd ger eich llety. Gellir dod o hyd i siopau a argymhellir sy'n agos at eich llety penodol yn eich Canllaw Llety.
Y tro cyntaf i chi fynd i siopa bwyd fydd yn cymryd hiraf i chi. Mae hyn oherwydd y byddai angen amser arnoch ddod i adnabod yr archfarchnad yn well a chwilio am yr hyn sydd ei angen arnoch. Ar ôl ymweld â'r archfarchnad am y troeon cyntaf, mae'n hawdd ymgyfarwyddo â hi. Ar y cam hwn, roeddwn i o'r farn mai cynllunio eich siopa bwyd oedd y ffordd orau o gael popeth yr oedd ei angen arnoch, bod mor gyflym ag y gallwch chi a pheidio â phrynu pethau nad oes eu hangen arnoch. Rwy'n gwybod bod hyn yn teimlo'n wirion, ond wir i chi, mae'n helpu!
Dilynwch y pwyntiau hyn i siopa bwyd yn y ffordd orau:
- Ysgrifennwch restr o'r hyn sydd ar goll (Enghraifft: Cynhwysion ar gyfer rysáit).
- Ychwanegwch yr hyn nad oes llawer ar ôl gennych ohonynt at y rhestr (Enghraifft: Papur tŷ bach).
- Ysgrifennwch pa fwyd sydd ei angen arnoch (Enghraifft: Grawnfwyd, bara, reis, llysiau).
- Yn olaf, ysgrifennwch yr hyn yr hoffech ei gael (Enghraifft: Siocled).
Unwaith i chi orffen eich rhestr, ni ddylai gymryd yn hir i chi orffen siopa bwyd.
Dewiswch amser o'r dydd lle nad yw'n brysur. Os ydych yn rhydd ar ddiwrnod penodol o'r wythnos, rhwng 9 AM a 3 PM, ewch bryd hynny. Gallwch fod i mewn ac allan mewn munudau. Cymerwch fag cefn ac ambell i fag ychwanegol bob amser er mwyn osgoi prynu bagiau bob tro rydych yn mynd gan nad ydynt am ddim!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar amseroedd agor y siop rydych chi'n bwriadu mynd iddi. Mae'n arbennig o bwysig nodi bod y rhan fwyaf o archfarchnadoedd (ac eithrio rhai siopau llai e.e. Tesco Express) yn cau am 4pm ar ddydd Sul. Os ewch chi am y siopau mwy fel Lidl, Aldi neu hyd yn oed Tesco Extra, maen nhw'n tueddu i gael bron popeth sydd ei angen arnoch chi fel y gwelir ar y map isod. Efallai eu bod ychydig ymhellach allan, ond mae ganddyn nhw lawer mwy o ddewis a mwy o gytundebau ar gael, felly bydd eich siop gyffredinol yn rhatach!
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd