Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a close up of a map

Llety

Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright

By ResLife 22 Sep 2020

Mae Llys Cartwright i'w ffeindio rhwng Rhath a Cathays, dwy ardal gyda nifer fawr iawn o fyfyrwyr. Mae hi o fewn pellter cerdded i siopau, tafarnau, parciau, caffis a’r brifysgol, wrth gwrs.

students outside accomm

Mae teimlad o berthyn i deulu yn Llys Cartwright gan nid oes llawer o fyfyrwyr yn byw yma. Mae’r rhan fwyaf yn ffrindiau da iawn gyda gweddill eu fflat ac mae yna wastad cyfle i gymdeithasu mewn un o’r fflatiau heb ormod o sŵn a thrafferth. Rydyn ni’n cynnal llawer o ddigwyddiadau yn ein Lolfa Bywyd Preswyl!

Beth i ddisgwyl pan yr ydych yn cyrraedd

Cardiff uni logo

Bydd y tîm preswyl wedi eich cysylltu am yr hyn y dylech ddisgwyl wrth gyrraedd Llys Cartwright, ond bydd cynorthwywyr y tîm bywyd preswyl ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i rannu eu profiadau o fyw yn neuaddau preswyl.  

Beth yw’r Tîm Bywyd Preswyl?

RLA staff

Mae cynorthwywyr Bywyd Preswyl yn fyfyrwyr sy’n byw yn y neuaddau preswyl er mwyn medru eich cynorthwyo gydag unrhyw bryderon neu anghenion sydd gennych. Rydyn ni’n gweithio pob noswaith yn ystod yr wythnos weithio o 5yh-10yb ac ar benwythnosau am 12yh-10yb. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau cymdeithasol sy’n cael eu hysbysebu ar ein tudalen Instagram @residencelifeCU. Dilynwch ni er mwyn darganfod mwy!  

Rydym yn cynnal lolfeydd coffi ar nosweithiau’r wythnos gweithio ble gallech ddod i drafod eich pryderon, rhannu syniadau am ddigwyddiadau neu gael sgwrs. Rydym hefyd yn cynnig diodydd poeth a bisgedi! Un digwyddiad sydd ond yn digwydd yn neuadd Cartwright a Roy Jenkins ydy Nosweithiau Waffl sy’n cael eu cynnal ar nosweithiau Iau. Rydym yn paratoi wafflau ffres ac yn cynnig nifer fawr o felysion i ychwanegu ar y wafflau, gan gynnwys hufen ia ar adegau. 

Bydd digwyddiadau'n gymysgedd o bobl ar-lein ac wyneb yn wyneb oherwydd y pandemig, ond bydd y Cartwright Court RLAs ar y safle ac ar gael i sgwrsio, helpu a chynnal lolfa coffi. 

Pethau ymarferol i'w hystyried tra’n byw yn Llys Cartwright: 

Cyfleusterau Golchi Dillad

laundry room

Mae llai o fyfyrwyr yn byw yn Llys Cartwright ac felly mae’r ystafell golchi dillad yn eithaf bach. Mae tri pheiriant golchi a phedwar peiriant sychu ac mae’r ystafell ar agor 24/7. Bydd angen cerdyn mynediad eich ystafell er mwyn cael mynediad i'r ystafell.   

Amseri:
Rydym yn argymell gwneud eich golchi yn ystod adegau tawelach, e.e. yn ystod y prynhawn neu ar benwythnosau. Mae nosweithiau a dyddiau Sul ymysg y cyfnodau prysuraf ond gallech wirio  argaeledd y peiriannau trwy’r ap Cardiff Students. Mae’n costi £5 er mwyn defnyddio’r peiriant golchi a sychu unwaith, OND mae’r peiriannau’n fawr! Os ydych yn gwneud un golch yr wythnos, gallech rannu’r peiriant gyda ffrind!  

Sut i ddefnyddio’r peiriannau: 
Unai bydd angen yr ap Circuit y gallech lawr lwytho am ddim, neu y gallech brynu cerdyn Circuit am £1.50, er mwyn defnyddio’r peiriannau. Nid yw’r peiriannau’n derbyn arian parod, mae angen i chi llwytho credydau ar eich cyfrif ar-lein. Fel arfer mae defnyddio’r ap yn eithaf hwylus ond ar adegau mae’r ap yn ymatebol. Er mwyn prynu cerdyn golchi dillad, gofynnwch i'r dderbynfa neu gofynnwch i aelod o’r tîm Bywyd Preswyl. 

Os ydych yn profi unrhyw broblemau gyda’r peiriannau (e.e. nid yw’r sychwr yn gweithio, neu os oes dwr yn llifo o’r peiriant), rydym yn argymell cysylltu â Circuit. Bydd angen côd a rhif ffôn yr ystafell golchi, mae’r rhain i'w ffeindio ar wal yr ystafell. Mae posibiliad y gallech dderbyn ad-daliad.  

Y Post

postbox

Mae’r holl barseli’n cael eu trawsgludo i'r swyddfa sydd ar agor 8yb-3yh yn Llys Cartwright. Mae’r swyddfa ond yn derbyn post o’r Post Brenhinol ac er mwyn casglu a llofnodi am eich post bydd angen i chi ddangos eich cerdyn llety. Os ydych yn disgwyl post o Amazon rydym yn argymell defnyddio cloer Amazon! Fodd bynnag, mae'r enw ar y locer (CASEN) yn anghywir, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi yn yr enw locer cywir (KYLEN) wrth archebu. Os ydych chi byth yn drysu, gofynnwch i Dderbynfa neu RLA am gadarnhad. Ar ben hynny, mae un y tu mewn i Co-op hefyd (gyferbyn â Roy Jenkins). Mae Co-op ar agor y rhan fwyaf o'r dydd, felly mae modd casglu eich parseli pan fydd y siop ar agor.

Er mwyn darganfod sut i ysgrifennu eich cyfeiriad, gweler y poster yn y gegin gymunedol neu gwiriwch eich cerdyn llety.  

Rydym yn argymell nodi oriau agor y dderbynfa a manylion o leoliad y swyddfa yn y blwch sylwadau wrth fynd trwy’r broses archebu fel nad yw’r gyrrwr yn cael trafferth yn ffeindio’r adeilad.  

Gampfa

A gym

Gampfa’r Brifysgol ydy’r gampfa agosaf, wedi ei lleoli ar Blas y Parc, ond os ydych yn hapus i fynd i'r dref mae JD Gym a The Gym sy’n eithaf rhad ac fel arfer maent yn cynnig prisiau arbennig yn ystod wythnos y glas. Maent fel arfer yn bresennol yn ystod ffair wythnos y glas felly ewch i weld beth sydd ar gael! 

Mae PureGym yn daith o 40 munud ar droed o Lys Cartwright ond mae’n opsiwn i'w hystyried os ydych yn astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant. 

Where to shop

a store filled with lots of different types of food

Mae yna nifer o siopau bach sydd ond yn cymryd 10 munud eu cyrraedd. Mae gan Heol Albany Tesco Express, Iceland, Home Bargains a Sainsbury’s Local, ymysg eraill. Mae Co-op a Savers ar Heol Crwys a thrwy ddangos eich cerdyn NUS gallech dderbyn disgownt o 10% yn Co-op. Os ydych yn chwilio am siop fwy, mae Lidl ar bwys y Brifysgol ar Cathays Terrace felly gallech ymweld ar eich ffordd gartref! 

Trafnidiaeth

NextBike

nextbikes lined up

Gallech ddefnyddio OVO Bike am ddim am 30 munud y dydd os ydych yn defnyddio’ch e-bost prifysgol tra’n cofrestri. Sicrhewch eich bod yn cloi’r beic i fyny’n gywir. Mae gorsaf OVO bike ar Stryd Daviot, tu fas i Llys Cartwright. 

Bysiau Moethus

a coach in a parking lot

Mae Megabus a National Express yn stopio’n agos I Brifysgol Caerdydd. Mae’r orsaf tu fas I 50 Plas y Parc. Mae’n daith o 20 munud ar droed o Lys Cartwright. Sicrhewch eich bod yn dewis yr orsaf ‘Prifysgol Caerdydd’ nid Kingsway (Megabus, tu fas I Neuadd y Ddinas) neu Sophia Gardens (National Express). Os ydych yn dewis yr orsaf anghywir mae’n bosib ni fydd gennych ganiatâd i dal/gadael y bws. 

Mae yna sied beiciau diogel yn Llys Cartwright. Gallech ei ddefnyddio am ddim ond mae nifer cyfyngedig o allweddi ar gael sy’n cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin. Gallech gasglu’r allweddi o’r dderbynfa.  

Llefydd i fwyta!

Mae yna nifer o heolydd sydd â chaffis a bwytai hyfryd. Ewch I Heol Wellfield, Heol Crwys, City Road neu Heol Woodville er mwyn darganfod nifer o lefydd deniadol i fwyta! Mae pob math o fwyd ar gael felly rydym yn argymell cerdded ar hyd y strydoedd i ffeindio llefydd sy’n cynnig bwyd o’ch chwaeth chi:  

Blanche Bakery

a table topped with plates of food on a plate

Mae’r caffi hon ger Llys Cartwright ar Blas Mackintosh, ger y croestoriad. Mae’r caffi ar agor o 11yb-9yh ac maent yn gwerthu toesenni fegan anhygoel! Maent yn cynnig brunch, cinio canol dydd a chinio gyda choctels felly gallech ymweld unrhyw bryd. Yn ogystal, mae’n instagrammable iawn! 

The Early Bird

food on a table

Mae’r caffi bach annibynnol hon yn cynnig toesau a brunch gwych! Mae hi wedi’i lleoli ar Heol Woodville ond y mae’n fach iawn felly cadwch lygaid rhwng y tai. Ond, os hoffech ffordd hawdd o’i ffeindio, mae’r adeilad wedi’i pheintio’n felyn llachar! Mae’n costi tua £6 am brunch, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn Cathays yn caru’r caffi hon! 

The Hellenic Eatery

a kebab

Dyma un o fy hoff fwytai yng Nghaerdydd ac mae’n fforddiadwy iawn! Mae’n fwyty Groegaidd traddodiadol ar Heol Crwys. Maent yn cynnig amplapiau gyda sglodion, salad a tzatziki gyda’ch dewis chi o lenwadau (gyros, halloumi, cyw iâr ayyb) am £6! Yn ogystal, yn aml mae cerddoriaeth Roegaidd yn canu’n fyw, er mwyn atgyfnerthu’r profiad traddodiadol hon.  

Wiwo

noodles at wiwo

Os ydych yn caru nwdls, dylech ymweld â Wiwo! Mae’r siop tecawê hon wedi ennill nifer o wobrau yng Nghaerdydd! Gallech addasu eich pryd gan ddewis nwdls/reis, llenwad a saws, mae’n flasus iawn ac mae popeth yn ffres! Mae’r siop wedi’i leoli ar Heol Woodville drws nesaf i Sainsbury’s a gallech ddewis i gasglu eich bwyd neu gael trawsgludiad.

Coco Gelato

huge dessert plate

Dyma engrhaifft arall o un o fy hoff lefydd i fynd am fwyd oherwydd mae’r cynnyrch yn anhygoel ac mae’r siop ar agor yn hwyr iawn! Mae’r siop hufen ia Eidalaidd hon yn cynnig cymaint o flasau amrywiol ac mae’n cynnig melysfwydydd anferth, o wafflau I freak shakes. Ewch ar ôl peidio bwyta am gwpl o oriau er mwyn gwneud y mwyaf o’r pwdinau. Yn fwy, mae Coco Gelato ar agor tan 11yh, yn union fel y gelaterias yn Yr Eidal! 

Sticky Fingers Street food

a sign of sticky fingers

Awyrgylch gwych gyda llawer o ddewis. Mae hon yn cynnig profiad bwyd ar y stryd ble mae nifer o gynigion arbennig, yn enwedig o ddydd Llun-Gwener (e.e. ar ddydd Mawrth mae poteli o win yn costi £10). Mae rhywbeth i bawb! Mae cerddoriaeth fyw yn chwarae yn y cefndir ac eto, mae‘r awyrgylch yn wych. Un o fy hoff fwydydd yna ydy cig eidion gludiog Brother Thai! Mae hyn wedi‘i lleoli ar y trawstoriad ger Heol Richmond. 

Calabrisella

a pizza sitting on top of a table

Oes unrhyw un sydd ddim yn mwynhau bwyd Eidalaidd? Ers i’r bwyty yma agor cwpl o fisoedd yn ôl, dw i wedi ymweld tair waith. Mae Calabrisella wedi’i lleoli ar Cathays Terrace felly nid yw’n bell iawn o’r Brifysgol. Maent yn gwerthu’r pitsa orau yng Nghaerdydd yn fy marn i, ac maent yn gweini’r pitsas ar fordydd sy’n troelli - cyflwyniad traddodiadol a bwyd blasus iawn! Os ydych yn ymweld, ceisiwch yr arancini sydd ond yn costi £2 - maent yn enfawr! Rwy’n argymell archebu pitsa a rhannu arancini!  

Tafarnau

inside of a pub

Mae yna gannoedd o dafarnau yng Nghaerdydd, mae nifer o fyfyrwyr sy’n byw yn Llys Cartwright yn mwynhau mynd i'r Royal George sydd ond rownd y gornel, ar waelod Heol Crwys. Os ydych yn chwilio am rywle rhad, rwy’n argymell The Taf yn yr Undeb. Mae’n lle prysur a chymdeithasol iawn, ac mae’r bwyd o ansawdd dda ac yn rhad!