Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a group of people talking outside accommodation

Llety

Byw cymunedol

By bzellie 14 Sep 2020

Os byddwch mewn llety myfyrwyr, byddwch yn aros mewn fflatiau/tai a rennir sy'n cynnwys rhannu ceginau a thoiledau (mae hyn yn wahanol ar gyfer ystafelloedd ensuite a stiwdios). Gan fod y cyfleusterau blaenorol yn cael eu rhannu fel arfer â myfyrwyr eraill, rwy'n siŵr bod gennych rai cwestiynau.

Rydym wedi llunio nifer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn yn gyffredin ac wedi eu hateb i chi yma!

1. Pwy sy'n glanhau'r toiledau/cegin yn y tŷ neu'r fflat?

Mae'r tîm glanhau yn galw heibio unwaith yr wythnos i lanhau pob ardal a rennir: ceginau, toiledau a chynteddau. Os ydych yn byw mewn ystafell ensuite neu stiwdio, eich toiled (a/neu'r gegin) yw eich cyfrifoldeb eich hun. Ni fydd y tîm glanhau yn gyfrifol am ei lanhau (eu glanhau). 

2. Sut i rannu cegin?

Dylai bod digon o le yn y gegin ar gyfer pob person sy'n aros yn y tŷ/fflat: cwpwrdd bach a mawr a silff yn yr oergell a'r rhewgell. Peidiwch â rhoi eich eiddo mewn mwy na'r nifer o gypyrddau/silffoedd a rannwyd yn gyfartal. Os ydych yn gweld nad yw rhywun yn ei ddefnyddio a bod gennych lawer o eiddo, gallwch ofyn iddynt yn garedig os gallwch gadw eich pethau yno dros dro.

a cup of coffee

3. Beth yw Oriau Tawel?

Mae hon yn rheol a osodwyd gan Breswylfeydd sydd yn y bôn yn gosod amser lle y disgwylir i fyfyrwyr aros yn dawel. Mae hyn oherwydd y gallai rhai myfyrwyr fod ar leoliadau ac yn gorfod codi'n gynnar neu gall rhywun fod yn ceisio mynd i gysgu. Yr amser i gadw'r sŵn i lawr yw rhwng 11PM a 7AM bob dydd. Ystyriwch eich cymdogion cymaint ag y gallwch chi!

4. Pwy sy'n mynd â'r biniau allan?

Pan fydd y biniau bron yn llawn yn y ceginau a'r toiledau, eich cyfrifoldeb chi yw mynd â nhw allan. Er mwyn ei gwneud hi'n deg i bawb, rydym yn awgrymu eich bod yn llunio rota biniau ac yn ei rannu ymysg eich gilydd. Os nad ydych yn gwneud hynny o fewn y cyfnodau amser a nodwyd gan y preswylfeydd, yna codir £5 ar bob preswylydd am gael gwared ar wastraff gan y tîm Preswylfeydd.

5. Sut i gadw'r gegin yn lân?

Er mwyn cael cegin neis a thaclus, rydym yn argymell eich bod yn glanhau ar eich ôl yn gyson. Os ydych yn coginio ac yn tywallt neu'n gollwng rhywbeth ar ddamwain. Er bydd y tîm glanhau yn gofalu am y gegin, os bydd mewn cyflwr gwael, ni fyddant yn ei glanhau a byddant codi tâl arnoch hefyd. Fel arfer, byddant yn anfon llythyrau rhybuddio ac os bydd y broblem yn parhau yna codir tâl. Gall y rhain ddechrau o £30 ond byddant yn cynyddu yn dibynnu ar raddfa'r gwaith sydd ei angen. Edrychwch ar awgrymiadau Preswylfeydd ar gyfer cadw'r gegin yn lân yma.

6. Sut i rannu ystafelloedd ymolchi?

Y toiled yw'r cyfleuster a rennir a ddefnyddir mwyaf aml wrth fyw'n gymunedol. Er mwyn cynnal ystafelloedd ymolchi glân a hylan, mae'n rhaid i chi lanhau ar eich ôl. Gadewch nhw'n barod ar gyfer eich cyd-letywyr yn y cyflwr yr hoffech chi eu defnyddio nhw eich hunain. Byddwch yn ymwybodol o faint o amser rydych yn ei dreulio yn y gawod gan efallai y bydd eraill am ei defnyddio hefyd. Edrychwch ar awgrymiadau Preswylfeydd ar gyfer cadw'r ystafell ymolchi'n lân yma.

7. Os bydd gen i broblem gydag un o'm cyd-letywyr, beth ddylwn i wneud?

Y ffordd orau o ddatrys unrhyw broblemau yn eich fflat yw drwy gyfathrebu effeithiol ac agored. Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau ar gyfer cael sgyrsiau anodd gyda ffrindiau fflat yma. Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth pellach arnoch gyda hyn, gallwch estyn allan at ein tîm drwy'r Porth Cyswllt Myfyrwyr fel y gallwn wneud ein gorau i helpu.

Os yw'r mater yn effeithio arnoch chi neu les eich cyd-ddisgyblion, gallwch hefyd gysylltu â Cyswllt Myfyrwyr i gael eich cyfeirio at gymorth lles penodol.

8. A yw'n iawn i ddefnyddio eiddo pobl eraill?

Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadael eu hoffer coginio, platiau, bwyd ac ati yn y gegin, peidiwch â'u defnyddio. Os ydych chi a'ch cyd-letywyr wedi cytuno i ddefnyddio eiddo eich gilydd, mae hynny'n wych! Fodd bynnag, os gwnaeth rhywun grybwyll i chi beidio â defnyddio eu heitemau, peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn dal dig yn eich erbyn. Maen well ganddynt beidio â rhannu'r hyn y maent yn berchen arnynt am lawer o resymau.

cutlery in a drawer

I gael rhagor o awgrymiadau ar lanhau, edrychwch ar ein Sut i... glanhewch eich fflat erthygl wastad!