Ffordd o fyw
Perlau Cudd Caerdydd
Mae Caerdydd yn ddinas llawn atyniadau cudd gwych, ond
efallai na fydd twristiaid yn ymweld â llawer ohonynt oherwydd eu pellter o
ganol y ddinas. Er y gallant fod ymhell o brif atyniadau twristaidd y ddinas,
nid yw hyn yn golygu eu bod llai o bwys na Chastell Caerdydd â’i waith brics
Rhufeinig, er enghraifft.
Mae Caerdydd heddiw yn enwog fel prifddinas drawiadol
Cymru. Mae’n ddinas sydd â sawl arcêd, castell mawr yn y canol a chanolfan
siopa ffansi. Mae’r farchnad Fictoraidd yn enwog iawn, hefyd. Fodd bynnag, mae
llawer mwy i Gaerdydd na'r castell, Heol y Frenhines a Bae Caerdydd.
Yma, byddaf yn rhestru 10 atyniad
yng Nghaerdydd a'r cyffiniau a fyddai'n apelio at bobl o bob oedran.
1. Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Fel arfer, mae amgueddfeydd yn
adeiladau dan do sy'n dangos arteffactau hanesyddol gwych o wahanol oesoedd.
Fodd bynnag, mae arddangosfa Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn ymestyn i’r
awyr agored, hefyd. Ym mharc yr amgueddfa mae cynifer â 40 o adeiladau unigryw
sy’n rhychwantu 6,000 o flynyddoedd o gyfnodau gwahanol o hanes pensaernïol a
ffyrdd o fyw yng Nghymru. Mae'r amgueddfa'n eich gwahodd i fynd i mewn i
wahanol adeiladau er mwyn gweld crefft law a ffordd o fyw pentrefwyr Celtaidd,
ymsefydlwyr Llychlynnaidd a gwerinwyr Cymreig canoloesol, i enwi ond ychydig.
Nid yw'n syndod, felly, y cafodd ei dewis hefyd fel yr amgueddfa orau yn y DU
yn 2019.
2. Castell Sain Ffagan
Mae tir yr amgueddfa a nodir uchod y
tu mewn i furiau Castell Sain Ffagan. Mae'r castell yn cael ei weinyddu gan
blasty mawr o'r 16eg ganrif sydd
â muriau castell uchel o’i gwmpas ac arfwisgoedd trwm o’r cyfnod y tu mewn
iddo. Mae'n un o’r adeiladau gorau o oes Elisabeth yn y DU, ac mae ei gerddi
hardd yn ychwanegu at ei geinder diddiwedd.
3. Ynys Echni
Tua 6km oddi ar arfordiroedd Caerdydd
mae ynys fach o’r enw Ynys Echni. Mae gan yr ynys hanes cyfoethog iawn o
ystyried ei maint. Mae wedi llochesu sawl gwareiddiad gwahanol, ac rydym wedi
dod o hyd i dystiolaeth artiffisial o’r oes efydd ymlaen. Roedd disgyblion Sant
Cadoc yn ymwelwyr rheolaidd â’r ynys hefyd yn ystod y 5ed ganrif AD. Dechreuodd ei hanes diweddar ers i'r 1700au ag adeiladu’r
goleudy. Arweiniodd hynny at gyfnod newydd o adeiladu ar yr ynys. Yn y 1800au,
cafodd llawer o amddiffynfeydd milwrol eu hadeiladu ar yr ynys oherwydd ei
lleoliad strategol ym Môr Hafren, gan gynnwys llwyfannau magnel er mwyn
amddiffyn y môr. Cafodd Cenhadaeth Môr Hafren ei chreu bryd hynny, hefyd. Ar ôl
i amddiffynfeydd Palmerston gael eu hadeiladu, cafodd ysbyty heintiau ei
adeiladu yn y 1890au, a ofalodd am gleifion â cholera o borthladd Caerdydd.
4. Dyffryn
Ychydig i'r gogledd o bentref
Dyffryn, sydd i'r gorllewin o Gaerdydd, mae dwy siambr gladdu hynafol sy’n
dyddio’n ôl i gyfnod mor bell â 6000 BC. Mae i siambrau Llwyneliddon a
Tinkinswood nodweddion tebyg a hen iawn, a chawsant eu cynllunio mewn ffordd
debyg i’r tirnod enwog, Côr y Cewri. Mae siambr gladdu Tinkinswood yn pwyso 40
tunnell i gyd. Mae’n digwydd bod y maen capan mwyaf ledled Ewrop, hefyd. Fodd
bynnag, mae’r ddwy siambr gladdu ar ochrau gwahanol i Dŷ Dyffryn a’i gerddi
botanegol cain a mawreddog mewn arddull Tsieineaidd ac arddulliau dwyreiniol
eraill. Mae'r caeau, sy’n llawn ffowntenni, hefyd mewn arddull Tsieineaidd, ac
mae’r gerddi’n cynnwys cerfluniau o dduwiau Japaneaidd a duwiau sawl diwylliant
arall. Mae’r tŷ, a adeiladwyd ym 1595, yn cael ei warchod gan yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n cael ei ystyried yn drysor Prydeinig
cenedlaethol.
5. Castell Coch
Ac yntau wedi’i adeiladu gyntaf gan y
Normaniaid dros fil o flynyddoedd yn ôl, mae Castell Coch i’w weld yn uchel
uwchben pentref Tongwynlais yn edrych dros Afon Taf a Chaerdydd o fryniau
Fforest Fawr. Cafodd y castell Normanaidd ei ddinistrio’n wreiddiol ym 1314 yn
ystod y gwrthryfel yng Nghymru a’i ailadeiladu’n ddiweddarach ym 1848 gan
drydydd Iarll Bute, John Stuart, drwy ddefnyddio olion a chynlluniau canoloesol
gwreiddiol y castell. Erbyn hyn, mae'r castell wrth fynedfa llwybr Fforest
Fawr, lle gallwch weld canol dinas Caerdydd yn y pellter yn codi o gwm Afon
Taf. Bydd ffotograffwyr wrth eu boddau’n tynnu lluniau o’r olygfa banoramig
hardd a’r castell hwn.
6. Canolfan Sgïo ac Eirafyrddio Caerdydd
Heb fod ymhell o ganol dinas Caerdydd
mae byd arall wedi’i orchuddio ag eira. Yng Nghanolfan Sgïo ac Eirafyrddio
Caerdydd mae llwybr perffaith ar gyfer sgïo ac eirafyrddio i’r rhai sy’n
dysgu’r sgiliau hanfodol er mwyn dechrau arni a’r rhai mwy profiadol er mwyn
mwynhau eu hunain. Mae amrywiaeth o offer a dillad amddiffynnol yn aros
amdanoch. Pam fynd i’r Alpau pan allwch sgïo, eirafyrddio neu diwbio (yn yr
haf) yn ninas Caerdydd? Mae'r prisiau'n eithaf rhad, oni bai eich bod yn cael
gwersi preifat.
7. Fforest Fawr
Mae coetiroedd Fforest Fawr yn
ymestyn dros sawl bryn a chamlas fach wrth ymyl Afon Taf, ychydig i'r gogledd o
Gaerdydd. Mae llwybr y goedwig yn dechrau o bentref Tongwynlais o dan y bryn.
Mae’n mynd i fyny drwy Gastell Coch ac yn codi’n gyson, ac mae’r golygfeydd o
Gaerdydd oddi uchod yn hardd iawn. Ar hyd y llwybr llawn cerfluniau mae’r agoriad
i ogofâu’r tri arth. Mae'r coetiroedd yn lle gwych ar gyfer beicio mynydd neu
fynd am dro gyda’r teulu tuag at Ffynnon Taf ar ddiwedd y llwybr i'r gogledd
o'r castell.
8. Castell Rhiw'r Perrai
Ac yntau ychydig i'r gogledd-ddwyrain
o Gaerdydd gerllaw coedwig Coed Craig Ruperra, mae’r castell â phedair ochr
dyrog a adeiladwyd ym 1626 yn enwog am fod yn llety i Frenin Siarl y Cyntaf ar
ôl Brwydr Naseby, a hynny 20 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu fel ffug
gastell. Mae’n cael ei alw’n ffug gastell gan ei fod wedi’i adeiladu fel
preswylfa yn lle amddiffynfa filwrol ganoloesol. Er iddo ddioddef sawl tân a
chael ei ailadeiladu yn y 18fed a’r 19eg ganrif, cafodd y castell ar ei ffurf bresennol ei ddinistrio unwaith
eto gan dân, a hynny tra bod byddin Prydain yn ei ddefnyddio yn ystod yr Ail
Ryfel Byd.
9. Parc Fferm Walnut Tree
Os mai cysylltu â natur, mwynhau
ychydig o adloniant, cael picnic a bwydo'r bywyd gwyllt tra byddwch wrthi yw
eich dewis ffordd o fwynhau eich diwrnod, dylech wneud eich ffordd i’r tir
ffermio arfordirol deheuol hanner ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, lle mae
Parc Fferm Walnut Tree yn aros amdanoch. Mae'n lle perffaith ar gyfer diwrnod
gyda’r teulu, lle gallwch fynd am dro ochr yn ochr â gwahanol fathau o
anifeiliaid, yn ogystal â gofalu am yr anifeiliaid hynny. O lamas i asynnod, ac
o draciau go cart i reidiau ceffyl ger y stablau, ni fydd parc y fferm yn siomi
hyd yn oed yr unigolyn mwyaf anturus yn eich plith. Hefyd, mae ymwelwyr yn aml
yn mynd ar deithiau cerdded gwledig i’r llynnoedd pysgota er mwyn pysgota a
chael picnic wrth y marchgaeau, lle mae’r anifeiliaid yn crwydro’n rhydd ar dir
sy’n ymestyn dros 80 erw.
10. Ynys y Barri
A hithau ar yr arfordir ger y Barri, mae Ynys y Barri’n enwog am ei thraethau hardd fel Bae Jackson. Mae’r traeth mwy eiconig, Bae Whitmore, yn enwog am fod yn gartref i ffair Ynys y Barri, sydd â mwy na 30 o reidiau gwahanol fel y cafn boncyffion. O amgylch y ffair, sydd gyferbyn â gorsaf drenau Ynys y Barri, mae llawer o arcedau, siopau a bwytai. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i gyrraedd Ynys y Barri ac olion Castell y Barri ar y trên o orsaf drenau Caerdydd Canolog, ac mae’r tocynnau’n rhad. Mae hefyd yn daith gerdded fer o’r clogwyni creigiog ger Bae Whitmore.
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd