Ffordd o fyw
Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd
Llongyfarchiadau ar gael eich cynnig i astudio ym mhrifysgol unigryw Prifysgol Caerdydd!! Arhoswch, nawr beth? A ydych wedi trefnu'r llety, wedi prynu'r tocynnau awyren, wedi ymuno â grwpiau eisoes i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a'ch cyd-letywyr? Ydw, ydw, ydw. Mae'n teimlo'n swreal, ac rydych yn sylweddoli eich bod yn dechrau ymddwyn yn fwy aeddfed. Ydych, rydych am fod yn fyfyriwr israddedig gwych, annibynnol yn fuan iawn, ac mae'n rhaid i chi ddechrau cynllunio!
Paciwch yn Glyfar
O fy mhrofiad, paciwch y dillad hanfodol yn unig: eich hoff pyjamas, dillad cynnes a gwisgoedd smart. Mae angen i chi fod yn ymwybodol bod tywydd y DU yn annisgwyl iawn, a bod yn rhaid cael cotiau glaw, siacedi trwm, menig ac esgidiau glaw! Yn fy marn i, nid oes pwynt defnyddio ymbareli gan nad ydynt fel arfer yn ddigon cryf i wrthsefyll y gwynt. Byddwch yn gweld pobl yn brwydro yn erbyn eu hymbarél tu chwith allan sawl gwaith. Paciwch bethau sy'n eich atgoffa o'ch cartref: addurniadau bach, lluniau, teganau meddal (does neb yn eich barnu), ac ati. Fel arall, pan fyddwch yn cyrraedd yma yng Nghaerdydd gallwch fynd i Ikea, Wilko, Primark, Tesco Extra a Poundland i brynu popeth y dymunwch ei gael am y prisiau rhataf. Dyma restr i gadw mewn cof!
Gwybodus am Dechnoleg
Erbyn hyn, mae bywyd heb dechnoleg yn annioddefol ac nid yw'n ddelfrydol. Mae angen i chi sicrhau cyn gynted â'ch bod yn cyrraedd Caerdydd eich bod yn cael eich cerdyn SIM o siop leol neu'n gallu prynu pethau ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o gardiau SIM yn rhad ac am ddim, ac mae fyny i chi o ran pa gynllun sy'n addas i chi. Mae gan holl adeiladau a llety'r brifysgol rwydweithiau 'eduroam' diwifr yn rhad ac am ddim sy'n gofyn am eich rhif myfyriwr a'ch cyfrinair i fewngofnodi. Yn bersonol rwy'n argymell cael cynllun misol gyda GiffGaff gan fod eu prisiau'n addas i fyfyrwyr. Dyma ddolen at adolygiad ar-lein o rwydweithiau symudol y DU er mwyn eich helpu i ddewis. Rwyf yn eich cynghori i brynu tanysgrifiad Antivirus Total Protection a'i lwytho ar bob un o'ch dyfeisiau er mwyn atal hacwyr. Nid eich poeni chi yw diben hyn, ond mae'n digwydd yn anffodus. Fodd bynnag, rydych nawr yn gwybod yn well ac mae angen i chi fod yn ofalus wrth drin unrhyw ebyst rhyfedd rydych yn eu cael a gwefannau amheus. Hefyd, sicrhewch eich bod yn prynu'r socedi plwg cywir am resymau iechyd a diogelwch. Gallwch ofyn i dderbynfa eich llety am eglurhad.
Cymdeithasu
Diben bywyd yn y brifysgol yw gwneud ffrindiau oes. Efallai ei fod yn teimlo'n bell i ffwrdd nawr, ond nid yw'n rhy hwyr ymuno â grwpiau Facebook a chyflwyno eich hun i bobl eraill ar eich cwrs neu yn yr un llety! Peidiwch â bod yn nerfus dweud helo gan fod pawb yn yr un cwch, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos hynny. Mae'r brifysgol yn denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd. Felly, ceisiwch gymysgu a chwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol i gael y profiad llawn. Bydd yn gwneud i chi werthfawrogi diwylliannau a thraddodiadau eraill ac, efallai, dyna fydd y lle delfrydol i chi ymweld ag ef nesaf. Mae eich Tîm Bywyd Preswyl yn chwarae rôl fawr yn cynnal digwyddiadau a lolfeydd coffi er mwyn eich helpu i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau oes. Edrychwch ar y dudalen Digwyddiadau i weld beth sydd ar y gweill!
Barod am Sioc Ddiwylliannol
Ie, i ni fyfyrwyr rhyngwladol, hyd yn oed y bobl o'r UE, byddwn yn gweld bod gan y DU reolau, diwylliannau ac hyd yn oed cynefinoedd amgylcheddol gwahanol. Byddwch yn sylweddoli bod y rhan fwyaf o siopau'n cau am 5pm yn ystod yr wythnos, mae'r gyrrwr yn eistedd ar ochr dde y car a gall yr haul fachlud rhwng 4pm a 10pm yn ystod y flwyddyn! Byddwn yn eich cynghori i ddarllen y ffactorau mwyaf cyffredin sy'n synnu myfyrwyr newydd. Bydd hyn yn eich gwneud yn fwy ymwybodol a byddwch yn teimlo llai o straen wrth gwrdd â phobl newydd. Wedi'r cyfan, mae pob diwylliant yn hyfryd yn ei ffordd ei hun.
Adnoddau Dysgu Arbenigol
A ydych yn chwilio am adnoddau dysgu? Wel, rydych yn lwcus gan fod gan Brifysgol Caerdydd ddigon i gefnogi ei myfyrwyr. Os rydych yn teimlo y dylai eich sgiliau iaith Saesneg wella ar gyfer lefel y brifysgol, yna dylai'r rhaglenni iaith Saesneg roi hwb i chi a'ch helpu i ragori yn eich gwaith cwrs. Does dim cywilydd, gwnes i fe fy hun er nad oedd diffyg sgiliau gen i. Mae'r Tîm Mentora'n hwyluso dosbarthiadau Sgiliau Astudio Academaidd ar amrywiaeth eang o bynciau. Maen nhw'n rhad ac am ddim, yn gyfeillgar yn hygyrch drwy drefnu ar-lein, yn digwydd yn aml a gallwch gwrdd â myfyrwyr newydd hefyd! At hyn, mae llawer o lyfrgelloedd ar draws y campysau, a bydd gennych fynediad at lyfrau ar-lein yn ogystal â chyfnodolion. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, boed ar-lein neu'n llyfr ffisegol, yna gallwch ofyn i'r llyfrgellwyr drwy sgwrs ar-lein neu wyneb yn wyneb. Os nad yw rhywbeth ar gael, gallant geisio ei ddarparu er mwyn gwella eich profiad dysgu. Fel myfyriwr PC, mae gennych fynediad at gyfnodolion a chylchlythyron am eich cwrs perthnasol ac fel aelod sy'n fyfyriwr gallwch fanteisio ar sefydliadau proffesiynol drwy fynd i ddarlithoedd a digwyddiadau e.e. Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Ceisio Graddau Da
Cymerwch anadl ddofn... mae'r system raddio yn y DU yn wahanol i wledydd eraill. Os ydych wedi arfer cael marciau llawn, neu'n agos at farciau llawn, yna falle y cewch eich siomi rywfaint yma. Bydd yn teimlo'n rhyfedd a bydd yn anodd dod i arfer ag ef, yn enwedig os bydd eich ffrindiau o brifysgolion yn America yn cymharu eich marciau â'u rhai nhw yn uniongyrchol. Defnyddiwch y trawsnewidydd graddau gwlad a chael eich hyder yn ôl. Yn dibynnu ar eich cwrs, mae'r meini prawf o ran marcio'n newid a gall fod yn anodd cael mwy na 80%. Nid yw unrhyw beth yn amhosibl serch hyn, felly anelwch am ganlyniadau uchel bob amser, gan gystadlu yn erbyn chi eich hun a bod yn realistig. Ceisiwch gystadlu yn erbyn cyflawnwyr uchel ar eich cwrs yn gyfrinachol ac yn ofalus, dwi yn ta beth. Nid ydw i'n dweud wrthyn nhw, ond rwy'n dweud wrthyf fy hun os ydyn nhw'n gallu gwella (gan gynnwys fy athro) yna'n sicr y gallaf i fod hyd yn oed yn well. Gwnewch hyn drwy fod yn osgeiddig, yn amyneddgar a thrwy gynllunio'n glyfar. Dewch i adnabod eich hun cyn cystadlu â chi eich hun. Gofynnwch am help gan ddarlithwyr, tiwtoriaid ac hyd yn oed cyngor gan eich mentor, a chredwch chi fi, ni fyddwch yn difaru. Rhoddir help heb farnu, a ni waeth beth yw eich cwestiwn, gofynnwch ef neu chi fydd ar eich colled.
Cartref Newydd, Cyd-letywyr newydd
Gadewch i ni fod yn onest yma, mae manteision ac anfanteision i fyw mewn llety myfyrwyr. Yn ddibynnol ar bwy sydd wedi'u dyrannu gyda chi mae'n debygol iawn y byddwch yn byw gyda rhywun sydd â threfn ddyddiol sydd i'r hollol wrthwyneb i'ch un chi, neu hyd yn oed rhywun sydd â meddyliau a chredoau gwahanol. Ni ddylai hyn byth eich rhwystro rhag dod yn ffrindiau gyda nhw, ond dylech ddysgu sut mae bod yn eangfrydig a sut mae derbyn pobl eraill. Mae awyrgylch y brifysgol yn annog cynwysoldeb a chyfeillgarwch heb unrhyw farnu, er gwaethaf y gwahaniaethau mewn cefndiroedd diwylliannol. Ni oddefir unrhyw fath o elyniaeth na bwlio, a chymerir unrhyw adroddiad o ddifrif waeth beth yw hynafedd yr unigolion dan sylw.
Swyddi Rhan-amser a Rheoli Llwyth Gwaith
Mae cadw'n brysur tra'n profi bywyd yn y brifysgol yn hanfodol yn fy marn i. Manteision hyn yw ei fod yn cadw'ch ymennydd rhag meddwl yn negyddol yn eich amseroedd rhydd a gall eich helpu i gael arian poced ac ychwanegu rhai sgiliau proffesiynol at eich CV. Fodd bynnag, gall rheoli amser eich astudiaethau, ynghyd â chyfrifoldebau eich swydd deimlo'n llethol ar y dechrau. Mae'n bwysig nad ydych yn gorweithio eich hun nac yn mynd dros 15 awr yr wythnos ac yn hytrach yn parhau i flaenoriaethu eich astudiaethau. Mae profiadau swydd addas ar gyfer pawb, ac mae cyngor pellach ar gael yma.
Ymuno â Chymdeithasau
Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf ar fywyd yn y brifysgol bydd ymuno â chymdeithasau a phwyllgorau yn sicrhau bod eich amser yma'n fythgofiadwy! Mae amrywiaeth eang o glybiau a fydd yn eich galluogi i wneud ffrindiau newydd, rhoi cynnig ar hobïau newydd, ysgogi creadigrwydd ac addysgu gwybodaeth werthfawr i chi. Hefyd, mae gennych y cyfle i ddechrau clwb eich hun os hoffech wneud hynny! Yma ceir dolen i ddysgu mwy, a bydd taith hyfryd, unigryw yn dechrau maes o law.
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd