Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a close up of a map

Llety

Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont

By ResLife 22 Sep 2020

Shwmae/Helo i breswyliwr newydd De Talybont neu Lys Talybont!

Yn gyntaf, ni ydy’r Tîm Bywyd Preswylfeydd a hoffwn ni eich llongyfarch chi am dderbyn cyfle i astudio yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn bwysicach, i fyw yn Nhalybont. Er gwybodaeth, Talybont ydy un o’r preswylfeydd fwyaf poblogaidd yn y brifysgol (efallai yng Nghymru gyfan!). Hyd yn oed os nid Talybont oedd eich dewis gyntaf, rydyn ni yma i sicrhau eich bod chi’n treulio amser hyfryd, hapus, iachus a diogel gyda ni. Rydyn ni’n hynod hapus i'ch croesawi. 

Mae’r canllaw isod yn esbonio sut mae bywyd yn Nhalybont. Mae hi wedi cael ei hysgrifennu gan fyfyrwyr, fel chi, sydd wedi byw mewn llety myfyrwyr ac sy’n gwybod sut brofiad ydyw. Mae’n cynnwys topigau fel beth y dylech ddisgwyl tra’n byw yma, yr hyn rydyn ni’n disgwyl ohonoch chi, atebion i gwestiynau cyffredin, a chyngor a chyfrinachau er mwyn sicrhau bod eich amser yma mor gofiadwy â phosib! 

Un peth hynod bwysig cyn i ni symud ymlaen: yr ynganiad Cymraeg cywir ar gyfer Talybont ydy Tal-uh-bont nid Tal-i-bont! Ewch i'r linc yma er mwyn clywed yr ynganiad cywir: https://forvo.com/word/talybont/

Map y safle

a close up of a map
a close up of a map

Mae Talybont yn cynnwys pedwar neuadd llety gwahanol: Porth, Gogledd, De a Llys. Mae’r pedwar ‘Taly’ wedi’u trefnu mewn rhes - o’r top i'r gwaelod gyda heol yn mynd trwy’r canol. Ar y pen uchaf mae Porth Talybont, wedyn Gogledd Talybont. Mae yna heol ar ôl y ddwy neuadd yma. Yna, mae De Talybont ac yn olaf, Llys Talybont.  

Llwybrau Byr 

Llwybr byr rhwng De Talybont a Gogledd Talybont:  
Mae llwybr rhwng adeilad 1 a 2 yn Ne Talybont sy’n arwain at faes parcio ger Canolfan Cymdeithasol Talybont. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych yn gweithio yn y Canolfan ac yn cael eich galw i fynd i'r fflatiau yn Ne Talybont neu i dderbynfa Llys Talybont.  

Llwybr byr trwy Dde Talybont:  
Mae llwybr rhwng tai 4 a 5 yn Ne Talybont sy’n eich arwain y tu ôl i dŷ 6 ac sy’n dod i ben rhwng tŷ 18 a’r adeilad golchi dillad.  

CYFLEUSTERAU

*Nodwch er bod y rhan fwyaf o fflatiau yn Nhalybont yn rhyw gymysg, mae fflatiau ar gyfer myfyrwyr BENYWAIDD yn unig a myfyrwyr LGBTQ+ yn unig. Gofynnwch am ganiatâd cyn mynd i fewn i fflat a sicrhewch eich bod yn barchus i'r preswylwyr.*

BETH I DDISGWYL PAN RYDYCH YN CYRRAEDD

Byddech yn derbyn eich cerdyn llety o’r tîm preswylfeydd, yn ogystal ag allwedd (Llys Talybont) neu gerdyn (De Talybont). Bydd eich cerdyn llety yn dangos eich enw, cyfeiriad eich neuadd breswyl, a’ch statws arlwyo. Byddech yn derbyn eich cerdyn myfyriwr gan y Brifysgol. Bydd hyn yn dangos eich enw, llun, rhif myfyriwr, cwrs a’ch dyddiad graddio. Sicrhewch eich bod yn cario’r holl gardiau neu allwedd (eich cerdyn myfyriwr, cerdyn llety a cherdyn/allwedd eich ystafell, AR BOB ADEG).

CANOLFAN GYMDEITHASOL TALYBONT

Mae Canolfan Gymdeithasol Talybont yn fan cymdeithasol sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Talybont. Mae hi wedi’i lleoli ger Gogledd Talybont drws nesaf i’r neuadd chwaraeon a’r gampfa. Mae hi ar agor 24/7. Gallech ymweld er mwyn astudio yn un o’r cuddyglau, neu wrth ymyl y byrddau sy’n addas ar gyfer astudio’n unigol neu mewn grŵp. Gallech ymweld er mwyn cymdeithasu gyda ffrindiau gan fod bwrdd ‘ping pong’ gyda racedi a pheli – mae’r rhain am ddim hefyd. Mae yna hefyd bwrdd biliards – ond mae angen dwy x £1 er mwyn chwarae.  

Rydyn ni, y Tîm Bywyd Preswylfeydd, wedi lleoli yn y ganolfan pob diwrnod o’r wythnos; dyddiau Llun-Gwener: 6yh-9yh a dyddiau Sadwrn-Sul o 1yh-8yh. Gallech ddod i siarad gyda ni, mynychu un o’n digwyddiadau, neu helpu’ch hyn i de, coffi a bisgedi yn ystod un o’n Lolfeydd Coffi sy’n digwydd o ddydd Llun i ddydd Mercher. Neu, dewch gyda ffrindiau i'n Nosweithiau Netflix ar ddyddiau Iau er mwyn gwylio beth bynnag yr hoffech ar ein huwchdaflunydd!

*ER MWYN CAEL MYNEDIAD I’R GANOLFAN, MAE ANGEN SGANIO EICH CERDYN MYFYRIWR (YR UN GYDA’CH LLUN) YN ERBYN Y SGANIWR GER Y DRWS. NID YW CARDIAU LLETY NEU YSTAFELL YN GWEITHIO.  

GOLCHI DILLAD 

Mae adeilad golchi dillad yng nghanol De Talybont ac mae ystafell golchi dillad drws nesaf i dderbynfa Llys Talybont. Mae’r ddau ar agor 24/7. Mae angen allwedd eich ystafell (Llys Talybont) neu gerdyn eich ystafell (De Talybont) er mwyn cael mynediad. Mae peiriannau golchi a sychu dillad ac er mwyn eu defnyddio mae angen lawr lwytho ap Circuit ar eich ffon, neu brynu cerdyn golchi dillad o’r dderbynfa. Er mwyn defnyddio’r ap Circuit, bydd angen i chi greu cyfrif ac ychwanegu arian i'r cyfrif. Mae un golch yn costi £2.90 ac mae un sesiwn sychu yn costi £1.50. Gan fod galw uchel ar y cyfleusterau, gwiriwch argaeledd y peiriannau ar ap ‘Cardiff Students’ (nid yw hi’n gwbl gywir pob tro).  

a screenshot of a table

Er mwyn golchi dillad:

  1. Dewiswch beiriant gwag gan sganio’r côd QR neu fewnbynnu rhif y peiriant (mae’r holl beiriannau wedi’u rhifo felly sicrhewch eich bod yn sganio/mewnbynnu’r rhif cywir).  
  2. Sicrhewch fod y peiriant yn wag. Os oes dillad wedi’u gadael ar ôl, rhowch y darnau uwchben y peiriant. 
  3. (OS YDYCH YN DEFNYDDIO PEIRIANT SYCHU DILLAD, GLANHEWCH Y FAGL LINT ER MWYN GWELLA EFFEITHLONRWYDD Y PEIRIANT!)
  4. Rhowch eich dillad yn y peiriant a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y peiriant/ar y waliau a chaewch y drws.
  5. Dewiswch y rhaglen a phwyswch ‘gychwyn’.  
  6. Nodwch yr amser y dylai’r rhaglen orffen. (Mae’r rhaglenni golchi fel arfer yn cymryd 40 munud ac mae’r rhaglenni sychu fel arfer yn cymryd 50 munud. Gallech ddewis super-wash er mwyn cyflymu’r proses golchi).  
  7. Dychwelwch er mwyn casglu eich dillad 5 munud cyn i'r peiriant golchi orffen er mwyn gwagio’r peiriant cyn i'r person nesaf disgwyl ei defnyddio. (Sicrhewch nad ydych yn rhy hwyr yn casglu eich golchi gan fod dillad gwlyb yn dechrau drewi os nad ydynt yn cael eu sychu’n gyflym. Hefyd, mae’n amharchus cadw eich dillad yn y peiriant tra bod eraill yn disgwyl ei defnyddio).  

*Tra yn yr adeilad ymolchi, sicrhewch eich bod wedi cysylltu i'r wê

**Os dyma’r tro gyntaf i chi ddefnyddio’r cyfleusterau ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud (pa liwiau i olchi gyda’i gilydd, pa lanedydd i ddefnyddio, faint o lanedydd i ddefnyddio ayyb) ewch i ddarllen ein blog am sut i olchi dillad am y tro gyntaf, sydd ar gael ar ein gwefan!

Os ydych yn profi trafferth wrth geisio defnyddio’r cyfleusterau neu mae problem gydag un o’r peiriannau, gallech gysylltu gyda Circuit neu alw’r llinell gymorth ar  01422 820 040 (mae’r wefan yn datgan fod cymorth ar gael dydd Llun-Gwener: 8:30yb-7yh a dydd Sadwrn-Sul: 8:30yb-3yh).  

a person standing in front of a building

POST 

Mae derbynfa Llys Talybont yn gallu derbyn unrhyw bost a anfonir gan y Post Brenhinol. Am drawsgludiadau gan gwmnïau eraill, ni all y dderbynfa derbyn unrhyw beth ar eich rhan chi, mae angen i chi drefnu gyda’r cwmni pryd yr ydych ar gael er mwyn derbyn yr eitemau. 

Unwaith i'r dderbynfa derbyn y post, byddech yn derbyn e-bost gan y dderbynfa er mwyn i chi gasglu’r eitem. Yn yr e-bost byddech yn derbyn rhif casglu. Gallech gasglu post yn ystod oriau gweithio’r derbynfa, sef o ddydd Llun-Gwener: 8yb-6yh. I gasglu eich post, bydd angen i chi ddangos eich rhif casglu, eich cerdyn myfyriwr (neu unrhyw gerdyn adnabod gyda llun arni), a cherdyn llety. NI ALLECH GASGLU EICH POST HEB DDANGOS Y TRI DARN O DYSTIOLAETH.

Os hoffech gasglu unrhyw beth o Amazon, yn ffodus, yn Nhalybont mae gennym Gloer Amazon o’r enw Minsk. Wrth ddewis ble hoffech chi i'r archeb cael ei phostio, dewiswch hyn fel nad oes angen i chi fod yn eich llety pan mae’r archeb yn cyrraedd. Sicrhewch eich bod yn casglu eich archeb o fewn y cyfnod amser maent yn cynnig (fel arfer o fewn cwpl o ddyddiau). Serch hynny, ni allech gasglu pob archeb o gloer Amazon. Mae yna hefyd cloer Amazon drws nesaf i Undeb y Myfyrwyr!  

Os hoffech anfon post, dyma rai o’r swyddfeydd post cyfagos: 

Swyddfa Post Undeb y Myfyrwyr 

  • Mae’r swyddfa post hon wedi’i lleoli yn y siop Caru Caerdydd ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr.  
  • Oriau agor: dydd Llun-Gwener: 9yb-5yh, dydd Sadwrn: 10yb-4yh, dydd Sul: wedi cau. (Ar agor yn ystod y tymor academaidd yn unig). 
  • Mae’r amser olaf i anfon post am 16:30 o ddydd Llun-Gwener ac am 12:20 ar ddydd Sadwrn. Ar ôl yr amser yma bydd eich post yn cael ei anfon y diwrnod canlynol. 

Swyddfa Post Whitchurch Road 

  • Cyfeiriad: 100 Whitchurch Rd, Caerdydd, CF14 3LY
  • Oriau agor: dydd Llun-Gwener: 9yb-6yh, dydd Sadwrn: 9yb-1yh, dydd Sul: wedi cau.
  • Rhif ffôn: 029 2022 5959

a close up of a red fire hydrant sitting on the side

BLE I SIOPA?

Aldi
Taith 10-15 munud ar droed o Dalybont, gallech ffeindio’r holl nwyddau angenrheidiol sydd angen arnoch chi, am bris llawer is na siopau eraill. Mae yna amryw o nwyddau ond nid oes cymaint o ddewis o gymharu â siopau eraill.

  • Cyfeiriad: Uned B, Batchelor Rd, Caerdydd, CF14 3AX
  • Oriau agor: Dydd Llun-Sadwrn: 8yb-10yh, dydd Sul: 10yb-4yh.
  • Y peth gorau: Mae dewis enfawr o rawnfwyd sy’n hynod o rhad!

Tesco Extra
Mae’r Tesco hyn yn enfawr ac mae ganddi bopeth.

  • Cyfeiriad: Excelsior Estate, Excelsior Rd, Caerdydd, CF14 3AT
  • Oriau agor: Fel arfer 24/7 ond oriau llai ar ddydd Sul. 
  • Y peth gorau: Mae’r popty yn cynnig pitsas am £1 (er i'r dêl yma ddiflannu’n gyflym). Maent hefyd yn cynnig brest cyw iar wedi ei goginio am £0.50 yr un ac adain cyw iar am £0.25 yr un. 

Tesco Express
Dyma’r siop agosaf i Daly. Mae’n eithaf bach ond fe fyddech yn gallu ffeindio’r hyn rydych ym chwilio amdani. Nid oes llawer o ddewis felly ar adegau byddech ond yn ffeindio un dewis o fwyd penodol sydd gallu bod yn ddrud. 

  • Cyfeiriad: 2-3 Parkfield House, 149 North Rd, Caerdydd, CF14 3BH
  • Oriau agor: 7yb-11yh pob dydd. 
  • Y peth gorau: Mae silff gyda bwydydd â phris isel sy’n tueddu i lenwi wrth i fyfyrwyr dychwelyd o’u darlithoedd. Mae’n cynnwys bwydydd sydd am fynd bant yn fuan, er bod y rhan fwyaf o fwydydd yn iach eu bwyta ar ôl y dyddiad a nodir ar y label. Mae’r ardal hon drws nesaf i'r silffoedd llaeth. Mae ail ardal ar y silff top uwchben y silffoedd bara. 

Lidl
Lawr yr heol o Dalybont, mae’r Lidl yma’n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn Llys Talybont, neu os oes angen siop fawr arnoch chi. Gan ei fod yn agos iawn i'r brifysgol, gallech fynd yno i brynu rhywbeth cloi. Mae’r hyn sydd ar gael a’r prisoedd yn debyg i Aldi, felly y mae’n rhad. 

  • Cyfeiriad: Maindy Rd, Caerdydd, CF24 4HQ
  • Oriau agor: Dydd Llun-Sadwrn: 8yb-10yh, dydd Sul: 11yb-5yh.
  • Y peth gorau:  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno taw’r peth gorau yn Lidl ydy’r popty. O gwcis, croissants, cacennau, pitsas, mae’r dewis yn WYCH...ac yn eithaf rhad! Fel Aldi, mae’r siop yn cynnig dewis amrywiol o rawnfwydydd rhad a blasus. 

CYFLEUSTERAU GAMPFA A CHWARAEON 

I’r rheini ohonoch sy’n ystyried buddsoddi mewn aelodaeth gampfa, mae nifer o opsiynau ar gael: https://bywydpreswyl.caerdydd.ac.uk/campfeydd-yng-nghaerdydd_126605

Er mwyn cymryd rhan mewn chwaraeon, ymunwch â chlwb neu gymdeithas yn y brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r clybiau yma’n cwrdd yn aml er mwyn ymarfer ym Mhentref Hyfforddi Prifysgol Caerdydd yn Nhalybont. Dyma pam y mae’n ddelfrydol ymuno a thîm chwaraeon wrth fyw yn Nhalybont gan fod yr ardal hyfforddi’n gyfagos iawn.  

Ar y llaw arall, os hoffech drefnu digwyddiad chwaraeon preifat ar eich cyfer chi a’ch ffrindiau, gallech geisio llogi un o’r caeau chwaraeon yn Nhalybont. Mae cyrtiau pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi a lacrós yng Ngogledd Talybont. Fel arfer mae’r rhain wedi cau, ac maent ond yn agor i glybiau os ydynt wedi’u llogi am gyfnodau penodol. Er hynny, mae cwrt pêl-fasged agored (ond hanner cwrt) o flaen tŷ S a V yng Ngogledd Talybont os hoffech chi a’ch ffrindiau geisio sgorio pwyntiau! 

Peidiwch anghofio fod Parc Bute yn agos iawn. Mae ganddi nifer o gaeau rygbi a phêl-droed yn ogystal â llwybrau beicio a rhedeg ar hyd yr Afon Taf! Gwnewch y mwyaf o’r ardal tra rydych yn byw yn Nhalybont!


a basketball on a wooden pole

PETHAU I’W HYSTYRIED TRA’N BYW GYDAG ERAILL

a screenshot of a cell phone

OS YDYCH YN CAEL EICH CLOI ALLAN

Mae’n eithaf tebygol y byddech yn cael eich cloi allan o’ch ystafell/fflat/adeilad o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn. Efallai eich bod chi wedi colli eich cerdyn/allwedd ar noswaith allan, rydych wedi anghofio ble gadawoch chi’ch cerdyn, neu wedi’i anghofio’i chymryd allan o’ch ystafell cyn i chi adael eich fflat. Os ydych yn ffeindio’ch hunain yn y sefyllfa yma, peidiwch â phoeni a dilynwch y cyfarwyddiadau isod. Bydd yna WASTAD rhywun i’ch gadael chi mewn (hyd yn oed am 4yb!).

  1. Galwch y Tîm Diogelwch ar 029 2087 4444.  
  2. Rhowch eich enw llawn, cyfeiriad llawn, dwedwch ble rydych chi ac o ble rydych chi wedi eich cloi allan. (E.e. “Helo. Fy enw i ydy Tom Evans. Dw i'n fyfyriwr a dw i wedi colli fy ngherdyn ac o ganlyn dw i fethu cael mynediad i fy nhŷ. Dw i'n byw yn Ne Talybont, Tŷ 13, Llawr 1, Fflat 1, Ystafell 3. Dw i'n sefyll o flaen fy nhŷ.”). 
  3. Arhoswch am gyfarwyddiadau gan y Tîm Diogelwch. Mae’n debygol byddent yn dweud wrthoch chi am aros tu fas i'ch tu nes bod cymorth yn cyrraedd, neu i fynd i dderbynfa Llys Talybont er mwyn derbyn cerdyn neu allwedd newydd.  

*Ni fydd gennych ganiatâd i fynd mewn ich tŷ/fflat/ystafell, na derbyn allwedd/cerdyn newydd os nad ydych yn cyflwyno eich cerdyn myfyriwr a cherdyn llety. Os nad oes gennych chi’r ddau yma, gallech gael eich tywys i'ch ystafell er mwyn eu casglu a’u cyflwyno cyn i'r mater dod i ben. Dyma pam y mae’n hanfodol cadw’r cardiau gyda chi AR BOB ADEG.  


PROBLEMAU CYNHALIAETH

Os ydych yn sylweddoli ar broblem cynhaliaeth yn eich ystafell neu fflat, megis dim dŵr oer/poeth, socedi trydanol sydd ddim yn gweithio, peiriannau cegin sydd ddim yn gweithio., cysylltwch neu ewch i dderbynfa Llys Talybont yn ystod oriau gwaith. Os oes angen cymorth tu hwnt i oriau gweithio, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch.  

GWYBODAETH CYSYLLTU

*Mae rhai o’r rhifau yma ar gael ar flaen a chefn eich cerdyn llety (yr un gyda’ch enw a chyfeiriad). Mae’n syniad da arbed y rhifau yma yn eich ffôn. 

Derbynfa Llys Talybont

Canolfan Diogelwch y Brifysgol 

  • Rhif: 029 2087 4444
  • Ar gael: 24/7 

Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol 

  • Rhif: 029 2087 4844

Cardiff Nightline

  • Rhif (ar gael yn ystod y tymor o 8yb-8yh): 02920 870555
  • Negeseuo (ar gael yn ystod y tymor o 8yh-12yb): 

https://cardiffnightline.co.uk/homeIM

a telephone with a long wire