Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a person wearing marigold gloves wiping a tiled surface

Llety

Sut i...lanhau eich fflat

By ResLife 17 Sep 2020

Nawr yn fwy nag erioed, mae mor bwysig cadw ar ben glanhau eich fflat.

Ystyriwch ba ardaloedd sydd angen i chi eu glanhau, a sicrhewch fod gennych y cynhyrchion cywir. Er bod rhai cynhyrchion yn addas ar gyfer pob arwyneb a gallwch eu defnyddio ar amrywiaeth eang o arwynebau, mae gan gynhyrchion glanhau gymwysiadau penodol y rhan fwyaf o'r amser ac ni fyddant yn gweithio'n effeithiol ar arwynebau eraill. Er enghraifft, os hoffech lanhau eich ystafell ymolchi, efallai y bydd angen i chi brynu cynhyrchion glanhau gwahanol ar gyfer y toiled a'r cawod. Gall fod angen defnyddio menig glanhau trwchus ar gyfer rhai sylweddau wrth lanhau, felly sicrhewch fod gennych y menig hynny hefyd. 

Rhestr o bethau y gallai fod eu hangen arnoch: 

  • Rhywbeth ar gyfer lloriau'r gegin a'r cyntedd (nid yw brwsio'n ddigon, credwch chi fi). 
  • Toddiant toiled.
  • Toddiant arwynebau ystafelloedd ymolchi cyffredinol. 
  • Potel o ddiheintydd (gweithio ar sawl arwyneb, a gellir ei wanhau os oes angen).
  • Diheintydd/glanhäwr arwyneb (gall hefyd fod yn llieiniau diheintydd).
  • Menig.
  • Sbyngau/cadachau rydych yn eu defnyddio i lanhau yn unig. 

a blue and yellow stuffed animal

  1. Tynnwch bob eitem oddi ar yr arwynebau rydych am eu glanhau. Os hoffech sychu eich desg, symudwch bopeth oddi arni fel ei bod hi'n wag a gallwch sicrhau nad ydych yn colli unrhyw smot. Peidiwch byth â glanhau'r wynebau sy'n weladwy yn unig. 
  2. Sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau cynhyrchion. Bydd angen i chi olchi rhai gyda dŵr ar ôl eu defnyddio, a gallwch ddefnyddio eraill ar yr arwynebau heb orfod gwneud dim byd arall. Sicrhewch eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau bob amser. Byddant hefyd yn dweud wrthych faint o'r cynnyrch sydd angen i chi ei ddefnyddio – nid yw gormod na dim digon yn ddelfrydol. 
  3. Gadewch i'r arwynebau sychu cyn rhoi eich pethau yn ôl.

Awgrymiadau Pro: 

Glanhewch yr ystafell anoddaf/mwyaf annifyr gyntaf. Gall hyn fod yn eich ystafell ymolchi, eich cegin neu hyd yn oed eich ystafell wely. Drwy wneud hyn gyntaf, nid yn unig y byddwch yn sicrhau eich bod yn glanhau'r ystafell sydd angen y mwyaf o waith pan fyddwch fwyaf egnïol, ond mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o foddhad sy'n eich helpu i symud ymlaen at y dasg nesaf. 

Dystiwch CYN sugno'r llwch.  Y rhesymeg y tu ôl i hyn yw wrth i chi ddystio, caiff llawer o ronynnau eu rhyddhau i'r aer, a fydd yn glanio ar y llawr yn y pen draw. Os byddwch yn sychu llwch ar ôl hyn, yna bydd gwell siawns gennych i gael mwy o'r gronynnau hynny. 

Gwrandewch ar gerddoriaeth. Rydym yn gwybod nad yw glanhau ar frig y rhestr o'ch hoff ddiddordebau, ond gallwch ei fwynhau yn fwy drwy wrando ar gerddoriaeth dda yn y cefndir. Hefyd, mae'n ffordd dda o dynnu eich sylw.