Llety
Sut i fanteisio ar ein digwyddiadau
Mae Bywyd Preswyl yn rhan mor enfawr o fywyd prifysgol ac mae gennym ni gymaint o ddigwyddiadau cyffrous yn dod i'ch ffordd!
Wrth fyw yn un o breswylfeydd y Brifysgol am y tro cyntaf erioed, gall fod yn anodd dod i adnabod myfyrwyr yn eich llety. Felly, mae eich Tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol i bob myfyriwr yn rhad ac am ddim. Diben y digwyddiadau hyn yw dod â myfyrwyr o lety/campws penodol at ei gilydd er mwyn iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn well. Fel arfer, rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd sawl diwrnod yr wythnos, megis lolfeydd coffi, nosweithiau chwarae gemau bwrdd a nosweithiau wafflau (i fyfyrwyr Llys Cartwright yn unig). Mae Cynorthwywyr Bywyd Preswyl (RLAs) hefyd yn cynllunio a chynnal digwyddiad drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau crefft, digwyddiadau chwaraeon a llawer o fwyd am ddim! Hefyd, rydym yn cynnal digwyddiadau ychydig yn fwy sawl tro bob mis. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys themâu amlddiwylliannol megis noson gyri a gwleddoedd o’r Dwyrain Canol, yn ogystal â brunches arholiadau a digwyddiadau i'ch helpu drwy gyfnodau astudio anodd.
Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn bersonol, fodd bynnag, rydym yn dal i gynnal rhai digwyddiadau ar-lein! I gael mynediad i unrhyw un o'n digwyddiadau, bydd angen i chi gofrestru ar Eventbrite. Mae’r broses gofrestru hon yn ein helpu ni i gael amcangyfrif da o nifer y myfyrwyr y dylem ddisgwyl er mwyn trefnu'r digwyddiadau yn well. Mae’r broses yn syml iawn ond mae’n hanfodol.
Camau i ddefnyddio Eventbrite:
- Ewch i reslifecu.eventbrite.com
- Edrychwch drwy’r digwyddiadau rydym yn eu cynnal.
- Dewiswch y digwyddiad sydd o ddiddordeb i chi.
- Llenwch y manylion (defnyddiwch eich cyfeiriad ebost yn y brifysgol).
- Hwrê! Mae gennych eich tocyn yn awr.
Dylech nawr dderbyn e-bost yn cynnwys yr wybodaeth ofynnol er mwyn cael mynediad i ddigwyddiad penodol. Os yw hwn yn ddigwyddiad ar-lein, bydd yn cynnwys dolen uniongyrchol i alwad Zoom neu Barti Netflix.
Gallwch hefyd glicio 'Dilynwch' ar ein tudalen Eventbrite i dderbyn diweddariadau am ein digwyddiadau sydd ar y gweill, felly rydych chi bob amser yn gwybod beth sy'n digwydd!
Mae ein holl ddigwyddiadau hefyd yn cael eu hysbysebu yma ar ein tudalen Browzer yn yr adran Digwyddiadau. Bydd pob un yn cynnwys dolen i Eventbrite i brynu eich tocyn.
Os oes gennych ragor o gwestiynau am unrhyw un o'n digwyddiau, byddwn yn hapus i'w ateb. Anfonwch eich ymholiad i ResidenceLife@cardiff.ac.uk! Mae hefyd gennym dudalen Instagram lle rydym yn rhoi cynnwys o’n digwyddiadau ac unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill. Enw defnyddiwr y dudalen Instagram yw ResidenceLifeCU, felly dilynwch ni!
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd