Ffordd o fyw
Sbotolau ar Fusnesau Bach: Brodie’s Coffee
Gan fod Caerdydd yn gymuned mor fywiog sy'n llawn perchnogion busnes dawnus a gweithgar, rydym wedi penderfynu arddangos rhai o'r busnesau sydd o fewn pellter cerdded byr i'ch neuaddau preswyl.
Heddiw rydyn ni'n canolbwyntio ar Brodie's Coffee, sy’n un o’r hoff leoedd i fyfyrwyr Campws y Gogledd a Thalybont, ac yn fuan byddwch chi'n gwybod yn union pam y dylech chi ymweld â'r siop goffi swynol hon!
Ble maen nhw?
Yn wahanol i lawer o fusnesau bach eraill yng Nghaerdydd, mae gan Brodie's Coffee fwy nag un lleoliad, sy’n ei wneud yn gyfleus. Mae eu siop ffisegol, Bricks and Mortar, bron yn union gyferbyn â Llys Tal-y-bont ar Heol y Gogledd. Dyma siop fach glyd a gallwch eistedd yn yr awyr agored neu y tu fewn os hoffech, dyma’r lle perffaith i fynd os ydych chi’n byw ym mhreswylfeydd Talybont ac eisiau newid golygfeydd!
Ymhellach i mewn i gampws Cathays yng Ngerddi'r Orsedd, mae gan Brodie's gaban bach sy'n gweini ystod eang o'u bwyd a'u diodydd poblogaidd. Mae’n llai na 5 munud o adeilad y Prif Gampws, mae'r caban hwn yn cynnig seddau awyr agored gyda golygfeydd hyfryd o'r gerddi hardd. Fel arall, mae'n lle gwych i gael coffi neu fyrbryd i fynd os ydych chi'n bwriadu mynd am dro i ganol y dref!
Beth Maen Nhw'n ei Werthu?
Fel y gallwch ddyfalu o'r enw, prif atyniad Brodie's yw eu coffi blasus! Gyda choffi ar gael ar bob ffurf, o cappuccino clasurol i latte rhew adfywiol, mae Brodie's yn berffaith ar gyfer arlwyo i'ch holl anghenion caffein. Nhw fydd eich ffrind gorau yn ystod tymor yr arholiadau!
Os nad coffi yw eich hoff ddiod mewn gwirionedd, mae Brodie's hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o ddiodydd eraill. Os ydych chi am gael diod poeth, maen nhw hefyd yn gwerthu amrywiaethau eang o de a siocled poeth, ac maen nhw’n gwerthu smwddis cartref a the rhew ochr yn ochr â diodydd meddal os ydych chi eisiau lluniaeth oerach.
Oes chwant bwyd arnoch chi? Gall Brodie’s helpu gyda hynny hefyd! Maen nhw’n cynnig bwydlen brecinio eang o granola cartref, tost a rholiau brecwast gyda dewis o fwydydd i fynd arnynt, gallent ddod yn drefn foreol newydd i chi! Os ydych chi eisiau danteithion llai, maen nhw hefyd yn gwerthu teisennau, cacennau, brechdanau a hyd yn oed toesenni (dydd Gwener yn unig!) - mae yna rywbeth at ddant pawb!
Pam dylech chi eu Cefnogi?
Felly, heblaw am y rheswm amlwg o fod eisiau cefnogi busnes bach lleol, pam siopa yn Brodie's?
- Gostyngiad i Fyfyrwyr –Rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n hoffi cael gostyngiad, ac fe gewch chi un yn Brodie's Coffee – maen nhw'n cynnig 10% i ffwrdd i bob myfyriwr sydd â cherdyn adnabod myfyriwr dilys.
- Gofod Croesawgar –Yn enwedig yn eu lleoliad Bricks and Mortar – mae’r llecyn cyfforddus, tawel hwn sy’n agos at Gyfadeiladau Talybont, Neuadd Colum a Neuadd Aberconwy yn lleoliad perffaith ar gyfer astudio, darllen neu gymdeithasu gyda ffrindiau.
- Helpu'r Digartref – Yn bwysicaf oll, mae gan Brodie's gynllun sy’n caniatáu i chi gyfrannu pris paned o goffi i dalu ymlaen llaw am ddiod poeth i bobl ddigartref, sy'n golygu y byddan nhw'n cael paned mawr ei angen am ddim! Mae hon yn fenter wych a mawr ei angen i’w chefnogi, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Beth amdani, felly? Gwnewch y daith gerdded fer i Bricks and Mortar neu i gaban Brodie’s, mwynhewch ddiod neu gacen flasus, a chefnogi fusnes bach yng Nghaerdydd!
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd