Ffordd o fyw
Cyfleusterau chwaraeon yng Nghaerdydd
Cyfleusterau chwaraeon a gynigir gan Brifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o gyfleusterau dan do ac awyr agored, a gall unrhyw un eu llogi neu eu defnyddio drwy ymuno â chymdeithasau chwaraeon y Brifysgol. Er bod y cyfleusterau chwaraeon ar wasgar ar draws y campws, mae’r rhan fwyaf ohonynt yng nghanolfan chwaraeon Prifysgol Caerdydd, sef y “Pentref Hyfforddiant Chwaraeon”, sydd ger neuaddau preswyl Gogledd Tal-y-bont.
Cyfleusterau yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon:
Mae cyfleusterau dan do ac awyr agored ar gael. Gellir defnyddio’r cyfleusterau gyda’r nos gyda’r llifoleuadau sydd yno.
Cyfleusterau chwaraeon dan do:
Mae’r ganolfan chwaraeon yng Ngogledd Tal-y-bont, ac mae ganddi gyfleusterau ar gyfer pob math o chwaraeon, gan gynnwys criced dan do, badminton, sboncen, gymnasteg, pêl-droed dan do a phêl-fasged. Mae rhan fwyaf y cymdeithasau chwaraeon yn hyfforddi yma. Gall unrhyw fyfyriwr logi’r cyrtiau yn unigol hefyd, felly gallwch fynd i chwarae eich hoff chwaraeon ar unrhyw adeg (Ffigur 7).
Canolfan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
Cyfleusterau chwaraeon awyr agored:
Os ydych yn dwlu ar chwaraeon awyr agored, mae gan Brifysgol Caerdydd amrywiaeth o gaeau a chyrtiau awyr agored. Mae ganddi ddau gae pêl-droed 3G, cae AstroTurf hoci, cwrt pêl-fasged a phêl-law awyr agored sydd ar gael i’w llogi ar unrhyw adeg (Ffigur 8).
Y peth gorau yw bod modd parcio’n rhad ac am ddim yn y ganolfan chwaraeon, ac felly nid oes yn rhaid i chi dalu i barcio er mwyn chwarae chwaraeon. Er y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr i’r cyfleusterau chwaraeon hyn, gall unrhyw un eu llogi ac nid o reidrwydd gan fyfyrwyr yn unig. Felly, mae'n arfer gorau archebu'r cyrtiau ymlaen llaw neu fel arall ni fyddwch bob amser yn gallu chwarae ar yr amser o'ch dewis yn y fan a'r lle.
AstroTurf Hoci Prifysgol Caerdydd.
Cyfeiriad a manylion llogi:
Derbynfa’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon
sport@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 4675
Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, Tal-y-bont, CF14 3AT
Meysydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd:
Mae hefyd gan Brifysgol Caerdydd gae chwaraeon 33 erw sydd â maes parcio mawr. Er bod y cyfleuster chwaraeon hwn ychydig yn bell o’r prif gampws, mae’n llawn o’r holl gyfleusterau hanfodol h.y. ystafelloedd newid a lluniaeth. Felly, mae’n gyfleus mynd yno i chwaraeon gêm pêl-droed neu rygbi lawn. Mae caeau glaswellt a 3G ar gael ar gyfer chwarae gyda ffrindiau neu eu defnyddio gan gymdeithasau chwaraeon ar gyfer hyfforddiant a gemau cystadleuol gyda phrifysgolion eraill.
Cyfeiriad a manylion llogi:
Derbynfa’r caeau chwaraeon
sport@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2077 7377
Caeau Chwarae Prifysgol Caerdydd, Heol Mendip, Llanrhymni, CF3 4JN
Cyfleusterau iechyd, ffitrwydd a champfa ym Mhrifysgol Caerdydd:
Campfa’r Pentref Chwaraeon:
Mae Campfa Prifysgol Caerdydd y tu mewn i’r ganolfan chwaraeon, ac mae’n llawn o’r peiriannau ac offer hyfforddi mwyaf modern.
Stiwdio 49:
Mae Stiwdio 49 yn gyfuniad unigryw o ddosbarthiadau aerobeg, ioga a dawns mewn un man. Cynigir digonedd o ddosbarthiadau ffitrwydd bob mis mewn grwpiau, neu gallwch logi un ar eich cyfer chi eich hun, hefyd. Mae lleoliad y stiwdio yn wych oherwydd ei bod hi’n agos at Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd.
Cyfeiriad a manylion llogi:
Derbynfa Stiwdio 49
sport@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 6706
Stiwdio 49, 49 Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT
Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol:
Mae’r cyfleuster yn addas iawn i’r rhai hynny sydd am gadw eu hunain mewn cyflwr da ond nid ydyn nhw o reidrwydd eisiau codi pwysau trwm. Mae'r peiriannau'n canolbwyntio'n bennaf ar cardio ac mae ystod eang iawn o opsiynau i ddewis ohonynt. Unwaith eto, mae mewn lleoliad gwych yng nghanol Cathays.
Cyfeiriad a manylion llogi:
Derbynfa’r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol
sport@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 0540
Y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AY:
Cyfleusterau chwaraeon lleol eraill yng Nghaerdydd.
Mae 60 o gymdeithasau chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleusterau chwaraeon. Weithiau, mae’n anodd dod o hyd i adeg lle mae’r cyfleusterau’n rhydd. Felly, o dan yr amgylchiadau hyn, mae Caerdydd yn ffodus iawn oherwydd bod ganddi lwyth o glybiau a chyfleusterau chwaraeon lleol hefyd. Dyma rai ohonynt:
Canolfan Hamdden Maindy
Mae Canolfan Maindy yn cynnig y pwll nofio agosaf i Dalybont, ond fel Cymun Gwell hefyd mae chwaraeon llawer o ddosbarthiadau ffitrwydd, hyfforddiant personol a thrac beicio hyd yn oed!
Ffôn: 02920 529230
Clwb Tenis Lawnt Caerdydd
Dyma glwb tenis gorau Cymru ac mae’n addas i chwaraeon o bob oed a safon sydd eisiau dysgu, chwarae a chystadlu mewn amgylchedd cymdeithasol sy’n addas i’r teulu. Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn chwarae fan hyn, ac mae clwb chwaraeon tenis Prifysgol Caerdydd hefyd yn defnyddio’r cyrtiau yn y clwb tenis. Felly, gall myfyriwr naill ai chwarae gyda chlwb Caerdydd neu ymuno â’r clwb lleol er mwyn hyfforddi a mwynhau’r chwaraeon.
Cyfeiriad a manylion llogi:
The Castle Grounds, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3EW
Ffôn: 029 2023 1216
Clwb Tenis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd:
Clwb Tenis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd yw unig ganolfan tenis bwrdd pwrpasol Cymru. Mae'r lle hwn ar agor i'r cyhoedd chwe diwrnod yr wythnos, a gall unigolyn gael sesiynau 'Talu wrth Chwarae' achlysurol yn ogystal â hyfforddiant o safon ryngwladol. Mae’r clwb yn estyn croeso cynnes i chwaraewyr o bob gallu a lefel profiad. Y peth da am y clwb hwn yw gall y rhai sy’n newydd i'r gamp ddefnyddio’r byrddau yr un faint â’r rhai proffesiynol. Mae Caerdydd yn ffodus i gael clwb cymunedol mor wych ar gyfer y rhai sy’n caru tenis bwrdd.
Cyfeiriad a manylion llogi:
Cyfeiriad: Uned 4, Ffordd Dominion, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 1RF
Ffôn: 07968 321875
Campfa a phwll nofio rhyngwladol Caerdydd:
Mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd yn bwll nofio maint pwll y gemau Olympaidd. Prin yw’r dinasoedd sydd â phwll nofio maint pwll y Gemau Olympaidd. Mae hefyd campfa sydd â mwy na 70 o orsafoedd, pwll i ddysgwyr, pwll hamdden, spa iechyd, man i feicio mewn grŵp ac i gynnal digwyddiadau clwb preifat. Felly, mae popeth yno mewn un man ac mae’n rhywle gwych. Gellir prynu aelodaeth am fis neu dalu bob mis i ddefnyddio’r cyfleusterau. Yn olaf ond nid y lleiaf, mae modd parcio am ddim ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Topics
- Darllen Nesaf
- 5 awgrym ar ddechrau lleoliad ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd Awgrymiadau a Thriciau ar gyfer Darllen Erthyglau Academaidd Delio â Sioc Diwylliant Diwrnod Amser i Siarad - 1 Chwefror 2024 3 ffordd wahanol o fwynhau eich coffi Canllaw cam wrth gam i wneud eich sushi eich hun Rysáit ceirch wedi'i bobi hawdd y mae angen i chi roi cynnig arni! Hylendid Bwyd mewn Neuaddau Deall System Gofal Iechyd y DU - Canllaw i Fyfyrwyr Rhyngwladol Canllaw i goginio yn y Brifysgol
- Poblogaidd
- Ble y dylid prynu eitemau hanfodol Canllaw Goroesi'r Flwyddyn Gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Newydd Byw cymunedol Canllaw Myfyrwyr De Tal-y-bont a Llys Tal-y-bont Mynd o Le i Le Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Caerdydd Canllaw Myfyrwyr Campws y De Cwrdd â’r tîm: Cynorthwywyr Campws y Gogledd Canllaw Myfyrwyr Llys Cartwright Perlau Cudd Caerdydd