Cookie Consent by FreePrivacyPolicy.com
a close up of a map

Llety

Canllaw Myfyrwyr Campws y Gogledd

By ResLife 22 Sep 2020

Mae Campws y Gogledd yn cynnwys neuaddau preswyl Aberdâr, Aberconwy, Hodge a Colum. Mae hi wedi’i lleoli ar gampws Parc Cathays ac mae’r holl breswylfeydd uchod llai na 10 munud i ffwrdd o’r Prif Adeilad ar droed a thua 30 munud i ffwrdd o gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae’r brif dderbynfa wedi’i lleoli yn Neuadd Aberdâr ac mae’r oriau agored o 8yb i 7yh. 

a close up of a map

Crynodeb o gyfleusterau’r preswylfeydd

Fel y gwelir yn ffigwr a thabl 1, mae Campws y Gogledd wedi ei lleoli yng nghanol y Brifysgol ac mae hi ond yn daith fer ar droed i gyrraedd canol y dref ac Undeb y Myfyrwyr. Mae llawer o fyfyrwyr yn cerdded o gwmpas yr ardal ar bob awr o’r dydd o ganlyniad i'r nifer o adrannau a llyfrgelloedd cyfagos. Mae cyfleusterau arlwyo yn Neuadd Aberdâr sydd ar gael i fyfyrwyr rhwng 8yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn fwy, mae gan Neuadd Aberdâr neuadd fwyta, gardd a lolfa ble m  ae digwyddiadau a gynhelir gan y Tîm Bywyd Preswylfeydd yn digwydd.  

BETH I DDISGWYL PAN RYDYCH YN CYRRAEDD? 

Fel y nodir ar eich cytundeb preswylfeydd, gallech gasglu eich allweddi, cyfarwyddiadau, post a chofrestri am feddyg yn Neuadd Aberdâr. Ar y diwrnod rydych yn cyrraedd, byddech yn cael eich croesawi a’ch tywys i'ch ystafell gan gynorthwyydd y Tîm Bywyd Preswyl. Byddent yn eich cynorthwyo i ymgyfarwyddo â’r campws a gallent ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.  

Mae’r cynorthwywyr hefyd yn cynnal digwyddiadau dwywaith yr wythnos er mwyn i chi gwrdd â phobl o gampysau gwahanol, ac i fod yn gymorth os oes gennych gwestiynau. Bydd y Tîm Bywyd Preswyl hefyd yn annog bywyd cymunedol positif ar y cyd gyda’r tîm rheoli trwy gynnal cyfarfodydd fflatiau. 

Mae myfyrwyr yn Neuadd Aberdâr sydd wedi dewis yr opsiwn o lety gyda chyfleuster arlwyo yn gallu buddio o’r profiad o fwyta brecwast a chinio gyda’i gilydd yn ystod yr wythnos gweithio.  I’r gweddill, yn ogystal â chyfathrebu gyda chymdogion yn y ceginau cymunedol ac yn ystod digwyddiadau Bywyd Preswylfeydd, mae nifer o gymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr y gallech ymuno er mwyn cwrdd â phobl gyda diddordebau tebyg! Gallech ddarganfod mwy o wybodaeth am y bobl yn eich adeilad trwy ymuno â grwpiau o gyd-fyfyrwyr yn yr un neuadd breswyl ar ogystal â Facebook.  

CYNGOR AR GYFER BYWYD CYMUNEDOL A RHANNU LLEFYDD: 

PARCH, elfen syml ond hynod bwysig. Efallai dyma’r tro gyntaf i chi gyd-fyw a chymdeithasu gyda grŵp o ddieithriaid. Y cyngor gorau ydy i barchu eich gilydd. Mae’n bosib bydd gennych arferion dyddiol, cefndiroedd neu ieithoedd gwahanol. Mae’n bwysig iawn i barchu ac i fod yn ystyriol i'ch gilydd.  

Mewn preswylfeydd, mae gofyn i chi gadw’r ardaloedd cymunedol (a’ch ystafelloedd) yn lan ac yn daclus. Dylai fflatiau gynnal cyfarfodydd aml i ddelio gyda materion megis glanhau neu arferion dyddiol gwahanol ar gychwyn y flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut y gallech ddygymod gyda’ch gilydd a sut i rannu’r cyfrifoldebau glanhau.  

a screenshot of a cell phone

BETH YW’R TIM BYWYD PRESWYL?

a group of people standing in front of a crowd posing for the camera

Mae’r Tîm Bywyd Preswyl yn grŵp o fyfyrwyr sydd wedi bod yn eich sefyllfa chi ac sydd wedi profi pa mor anodd gallai fod i ymgyfarwyddo gyda bywyd prifysgol. Rydyn ni’n ceisio gwella’ch profiad yma trwy greu cymuned ddeniadol ble chi a’ch lles personol ydy’r flaenoriaeth. Rydyn ni’n cydweithio gyda gwasanaethau eraill megis y Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr, Rheoli Preswylfeydd a’ch Undeb Myfyrwyr. Mae hyn yn caniatáu darpariaeth o wasanaethau cefnogaeth o ansawdd uchel sy’n gallu bod yn gefn i chi wrth i chi geisio gwireddu eich breuddwydion a chwblhau eich astudiaethau.  

Mae ein bwriad o sicrhau eich bod chi’n cael yr amser gorau posib yn y brifysgol yn cychwyn y foment rydych yn cyrraedd eich llety ble rydym ni’n eich croesawi chi i'ch cartref newydd. Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd fflatiau ar gychwyn y flwyddyn er mwyn sicrhau bod eich hawliau’n cael eu hamddiffyn a bod cymuned bositif yn cael ei ffurfio. Ar ôl y cyfnod yma rydyn ni’n parhau i ofalu am eich lles trwy gydol eich arhosiad trwy adnabod a chefnogi myfyrwyr archolladwy, delio gydag ymddygiad anweddus a chynnig cyngor onest heb feirniadaeth. Gallwn gynnig cymorth i fyfyrwyr archolladwy trwy gefnogaeth gan gymheiriaid a darparu gwybodaeth am wasanaethau arbenigol.  

Yn ogystal â hyn, mae triniaeth hafal a pharch tuag at fyfyrwyr o bob cefndir a diwylliant yn anhepgor yn ein llygaid ni, am hynny mae amryw o fyfyrwyr gwahanol yn ein tîm ni. Rydyn ni’n meddwl bod ein gwahaniaethau diwylliannol yn rhywbeth y gallem ddathlu trwy ein digwyddiadau ble y gallem rannu ein syniadau a chredoau gwahanol er mwyn hybu ymwybyddiaeth a chynhwysiant.   

Mae’r Cydlynwyr Bywyd Preswylfeydd a Chynorthwywyr Bywyd Preswylfeydd yn cymryd llawer o amser i drefnu digwyddiadau am ddim sy’n barchus o grefydd wahanol ac, yn bwysig, ble nad yw alcohol yn bresennol. Mae ein partneriaeth gyda’r Undeb Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gymdeithasau a’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau rhannu adnoddau dysgu a fydd yn gwella eich sgiliau a lefelau ymwybyddiaeth o bynciau penodol.  

Mae rhai o’n dathliadau’n cynnwys Ramadan, Nadolig, Diolchgarwch,  a'r Flwyddyn Newydd Tsieinëeg. Rydyn ni hefyd yn cynnal lolfeydd coffi wythnosol ym mhob un o’r preswylfeydd ble gallech ffeindio cymorth neu dreulio amser gyda gweddill eich fflat. Fel preswyliwr mae eich adborth a’ch barn yn werthfawr iawn, rydyn ni’n gwrando ar yr hyn rydych yn dweud ac yn ymateb i'r hyn rydych yn rhannu. 

ELFENNAU YMARFEROL O FYW YNG NGHAMPWS Y GOGLEDD

GOLCHI DILLAD

a person standing in front of a building

Mae tri gyfleuster golchi dillad wahanol yng Nghampws y Gogledd: un ar gyfer Neuadd Aberdâr, un ar gyfer Neuadd Hodge ac un ar gyfer Neuadd Colum, y tai myfyrwyr a Neuadd Aberconwy. Mae’r un olaf wedi’i lleoli trwy Neuadd Aberconwy y tu ôl i Dy 130 yn Neuadd Colum. Mae’r galw ar y peiriannau’n uchel felly gwiriwch yr ap ‘Cardiff Students’ ar gyfer statws y peiriannau cyn i chi fynd. Gosodwch larwm i ganu cyn i chi orfod casglu eich dillad fel nad ydych yn tarfu ar fyfyrwyr sy’n aros i ddefnyddio’r cyfleusterau. Mae’r adeilad golchi dillad ar agor 24/7 ac mae’n costio £2.90 am sesiwn golchi a £1.50 am sesiwn sychu dillad. 

Y POST

a close up of a red fire hydrant sitting on the side

Mae’r holl bost yn mynd i'r dderbynfa a gallech gasglu eich post yn ystod oriau gweithio. Mae’r dderbynfa yn derbyn post o’r Post Brenhinol ac er mwyn i chi gasglu eich nwyddau bydd angen dangos eich cerdyn myfyriwr a phreswyl, cyn llofnodi. Gallech wneud hyn ar ôl derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich nwyddau wedi cael eu derbyn gan y dderbynfa. Os ydych yn disgwyl nwyddau o Amazon Prime, rydym yn argymell defnyddio cloer Amazon cyfagos. Mae cloer Amazon ger ochr Undeb y Myfyrwyr ar bwys mynedfa’r gampfa. Mae’r hwb Amazon tu fas i adeilad yr Undeb felly y mae hi ar gael 24/7. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn rhoi eich rhif ffôn i'r cwmni trawsgludo felly mae modd i'r gyrrwr eich galw os oes angen, yn enwedig os ydych chi wedi trefnu trawsgludiad tu hwnt i oriau gweithio.  

a post box

Er mwyn anfon eich post, mae blwch post tu allan i Neuadd Aberdâr. Er mwyn casglu eich post mae blychau post tu fewn i bob neuadd breswyl ger mynedfeydd yr adeiladau. Er mwyn deall sut i ysgrifennu eich cyfeiriad, edrychwch ar y poster yn eich cegin! Os hoffech anfon post, boed yn y DU neu dramor, mae swyddfa bost ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr.  

GWAITH RHAN AMSER 

Os ydych yn dymuno ennill arian, rydym yn argymell cofrestri gyda’r gwasanaeth gwaith, Siop Swyddi, yn Undeb y Myfyrwyr. Maent yn anfon e-byst yn hysbysebu swyddi ar ddyddiau penodol, ee os oes angen mwy o staff yn y Stadiwm Principality ar ddiwrnodau rygbi. Nid oes cytundebau hirfaith ac mae’r swyddi’n cael eu llenwi ar sail  y cyntaf i'r felin. Gallech gofrestri ar wefan Undeb y Myfyrwyr (https://www.cardiffstudents.com),  ond bydd angen i chi ddangos eich pasport, cerdyn myfyriwr a dyddiau tymor eich ysgol academaidd, i staff y swyddfa er mwyn cofrestri. Mae’r swyddfeydd yn Undeb y Myfyrwyr yn Cathays neu yn Lounge IV yn yr ysbyty ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Byddech yn derbyn cerdyn Siop Swyddi sydd allu cael ei defnyddio am flwyddyn, gallech adnewyddu hyn unwaith iddi ddod i ben. Mae’r gwasanaeth hefyd yn hysbysebu swyddi rhan amser parhaol.  

a hand holding a remote control

Y GAMPFA 

Gampfa’r Brifysgol ydy’r gampfa agosaf, wedi ei lleoli ar Blas y Parc, ond os ydych yn hapus i fynd i'r dref mae JD Gym a The Gym sy’n eithaf rhad ac fel arfer maent yn cynnig prisiau arbennig yn ystod wythnos y glas. Maent fel arfer yn bresennol yn ystod ffair wythnos y glas felly ewch i weld beth sydd ar gael!

machines in a gym

TEITHIAU, YMLACIO AC YMARFER CORFF

a close up of a map

Parc Bute – Dyma ardal brydferth ble gallech gwerthfawrogi natur yng nghanol y ddinas – ac mae hi ond yn daith 8 munud ar droed o Neuadd Hodge. Os ydych yn dymuno seibiant o’ch gwaith a hoffech fynd am dro, neu os hoffech eistedd yn dawel a mwynhau sŵn yr adar, dyma’r lle i fynd. Os ydych yn mynd yn ystod y gwanwyn, mae pob math o flodau’n blodeuo ym mhobman!  

BLE I SIOPA 

  • Lidl – dyma’r prif archfarchnad i fyfyrwyr sydd wedi’i lleoli ar draws yr heol ac sydd ond yn daith o ddau funud. 
  • Mae Sainsburys’ Local a Korean & Japanese Food Shop wedi’u lleoli ar Woodville Road ac yn daith o 10 munud ar droed.
  • Tesco Extra 24 awr – llawer iawn o ddewis ac mae adran bwydydd rhyngwladol. 
  • Ystyriwch ysgrifennu rhestr siopa er mwyn peidio gwario gormod o arian. Efallai bod casglu eich bwyd neu defnyddio trawsgludiadau yn fwy effeithlon os ydych yn siopa gyda gweddill eich fflat. 
  • M&S FOODHALL – mae siop yng nghanolfan siopa Dewi Sant yng nghanol y dref. Serch hynny, mae hyn yn drytach na Tesco a Lidl, ond mae’r nwyddau o well ansawdd. 
  • Tesco Metro – yng Nghanolfan Siopa Capitol yng nghanol y dref. 

TRAFNIDIAETH (Cerdded, seiclo neu fysiau)

  • Trenau: Gorsaf Trên Caerdydd Canolog/ Gorsaf Cathays 
  • Next Bikes (mae gorsafoedd ar gael ar draws y campws) 
  • Bysiau i'r cyhoedd/Bws Neuadd y Brifysgol 
  • Tacsis: Ola/ Dragon / Uber 

a yellow train car sitting on a chair

LLEFYDD I FWYTA

Hoffi Coffi – un o’r siopau coffi mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr; mae hi wedi’i lleoli drws nesaf i'r Llyfrgell ASSL ger y bont, Mae’n hynod ddefnyddiol os hoffech brynu coffi blasus cyn i chi fynd i'ch darlithoedd. 

Metchy’s café – drws nesaf i Lidl, dyma gaffi y gallech ymweld â rhwng darlithoedd neu ar eich ffordd i'r llyfrgell. Mae hi hefyd yn lle hyfryd i fynd am bryd o fwyd cyflym. 

Os ydych yn chwilio am fwyd heb gynnyrch llaeth neu fwyd fegan, ar Cathays Terrace mae’r Embassy Café. Dyma gaffi y dylech ymweld âg os hoffech gerddoriaeth Indie neu gerddoriaeth o’r 90au’n chwarae yn y cefndir tra rydych yn astudio neu’n dal i fyny gyda ffrind. 

Green Shoots - sydd wedi'i leoli yn y Prif Adeilad ar Park Place, mae Green Shoots yn gaffi newydd gwych sy'n gwasanaethu llu o eitemau brecwast a chinio am gost fforddiadwy.

Mae gan Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr Costa Coffee, Subway a Gregg yn agos iawn, am fyrbryd cyflym ar y go. Ar y trydydd llawr hefyd mae caffi figan o'r enw Baby Shoots, y chwaer gwmni i Green Shoots!

Coco Gelato – efallai nid rhywle i fynd yn ddyddiol, ond rhywle i fynd am amheuthun o bryd i'w gilydd. Mae Coco Gelato’n cynnig dewis enfawr o hufen iâ Eidaleg a chrempogau. Mae hi’n daith o 15 munud ar waelod Woodville Road ger Heol Crwys. 

Deliveroo, UberEats a JustEat: Dyma wefannau sy’n cynnig trawsgludiad bwyd. Mae rhai yn cynnig disgownt am fyfyrwyr y gallech wirio os ydych yn ymweld â UNIDAYS. 

Woodville Road a Heol Crwys: Mae gan y strydoedd yma dewis eang iawn o fwydydd wahanol o fwyd Thai, Mediteranaidd a Tsieineaidd. Os ydych yn hoffi blasu bwydydd wahanol, ewch i ymweld â’r bwytai ar hyd y strydoedd yma! 

City Road: Mae’r stryd yma’n bellach i ffwrdd ond mae yna nifer o fwytai ar hyd yr heol. 

Serch yr opsiynau uchod, mae coginio gartref yn rhatach, felly os ydych yn dilyn cyllid byddwch yn ymwybodol o’r tebygolrwydd o wario mwy o arian os ydych yn bwyta allan neu’n archebu bwyd yn aml. 

a woman sitting at a table eating food

TAFARNAU A SINEMAU 

  • The Woodville – Drws nesaf i Neuadd Hodge, dyma un o’r tafarnau mwyaf poblogaidd yn Cathays ac mae’n addas iawn ar gyfer myfyrwyr. Mae’n lle dda i ymweld os ydych yn mwynhau yfed peint gyda’ch ffrindiau tra’n gwylio’r chwaraeon. 
  • The Taf – Tafarn i fyfyrwyr sydd wedi ei lleoli yn Undeb y Myfyrwyr, sydd ond yn daith o 5 munud o Heol Senghennydd. Mae’r dafarn yn cynnig dêls i fyfyrwyr ac mae’n lle poblogaidd iawn ar gyfer cymdeithasu a nosweithiau Karaoke ar nos Sadwrn  (ewch i https://www.cardiffstudents.com/our-venues/taf/ i ddarganfod mwy!) 
  • Y sinema rhataf - Premier neu Cineworld

LLYFRGELLOEDD A GOFADAU ASTUDIO

  • Julian Hodge (ar agor 24 awr ger Heol Colum)
  • Llyfrgell Gerdd (drws nesaf i Neuadd Aberdare)
  • Llyfrgell ASSL (ar y groesffordd rhwng Plas y Parc a Heol Colum)
  • Llyfrgell Aberconwy (ar Heol Colum)
  • Canolfan Bywyd y Myfyrwyr neu 'CSL' am fyr (ar Park Place)
  • Undeb y Myfyrwyr (sy'n gysylltiedig â chefn y CSL)

a book shelf filled with books